Heddiw rydym wedi cyhoeddi’r ymgynghoriad ar ‘Llunio Dyfodol Cymru’: Defnyddio cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd ein cenedl – Cynigion ar gyfer gosod y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru a cheisio barn ar effaith pandemig COVID-19 ar y dangosyddion cenedlaethol.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar osod cerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn cynorthwyo Gweinidogion i asesu cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn a oes angen gwneud unrhyw ddiwygiadau i’r dangosyddion cenedlaethol presennol yn sgil y profiadau a gafwyd yn ystod pandemig COVID-19.
Bydd yr ymgynghoriad yn agored o 1 Medi i 26 Hydref 2021 ac yn ystod y cyfnod hynny byddwn yn ymgymryd â rhaglen ymgysylltu i godi proffil y gwaith pwysig hwn a cheisio barn ehangach.
Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio barn a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth i ni wneud y gwaith hwn ac rydym yn eich gwahodd i gyfrannu!
Mae’r Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i lansio’r ymgynghoriad.
Hysbysiad Cyfeirio: Blog gwadd: Sut bydd newid hinsawdd yn effeithio ar Gymru yn y dyfodol? | Blog Llunio Dyfodol Cymru