Blog gwadd: Sut bydd newid hinsawdd yn effeithio ar Gymru yn y dyfodol?

Bydd Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021 yn rhoi sylw i ‘Iechyd a Therfynau’r Blaned’ er mwyn sbarduno newid er lles Cymru. Erbyn hyn, mae’r newid yn yr hinsawdd yn ffactor annibynnol sy’n sbarduno newidiadau i’n heconomi, ein cymdeithas a’n hamgylchedd, gan waethygu’r risgiau sydd eisoes yn bod. Rydym yn falch felly fod ein blog gwadd cyntaf wedi cael ei ysgrifennu gan Miriam Kennedy, Uwch-ddadansoddwr gyda’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, sy’n amlinellu sut y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ddyfodol Cymru.

Ym mis Mehefin 2021 cyhoeddodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ei 3ydd Asesiad Annibynnol o Newid Hinsawdd yn y DU (CCRA3), asesiad cynhwysfawr o’r risgiau â blaenoriaeth sy’n wynebu’r DU o ganlyniad i newid hinsawdd a’r cyfleoedd cysylltiedig. Mae’r adroddiad yn seiliedig ar raglen helaeth o ddadansoddi, ymgynghori ac ystyried gan y Pwyllgor, sy’n cynnwys dros 450 o bobl, 130 o sefydliadau a mwy na 1,500 o dudalennau o dystiolaeth a dadansoddiadau wedi’u casglu dros dair blynedd.

Gan ddefnyddio’r dadansoddiadau hwn, mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi crynodebau cenedlaethol ar gyfer pob un o wledydd y DU ac wedi darparu sgoriau ar gyfer pob risg i’r hinsawdd, i helpu i flaenoriaethu’r camau ymaddasu sydd eu hangen fwyaf.

Sut mae’r hinsawdd yn newid yng Nghymru?

Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn digwydd. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod hafau yng Nghymru yn cynhesu gyda thymheredd uchaf o 31°C yn 2019, mae patrymau glawiad yn newid, ac mae lefelau’r môr yn codi – cynnydd o 16cm eisoes ers 1901.

Rhagwelir y bydd y tueddiadau hyn yn parhau. Disgwylir i dymereddau blynyddol yng Nghymru godi tua 1.2°C erbyn y 2050au a rhwng 1.3 a 2.3°C erbyn y 2080au (o linell sylfaen 1981–2000). Mae’n debygol y bydd cyfnodau o dywydd poeth mwy eithafol yn dod yn fwyfwy cyffredin o ganlyniad. Disgwylir i lawiad yn yr haf ostwng tua 15% erbyn y 2050au a disgwylir i lawiad yn y gaeaf gynyddu tua 6% erbyn y 2050au. Mae’n debygol y bydd hyn yn arwain at ragor o lifogydd yn effeithio ar seilwaith, busnesau a chartrefi yn y gaeaf, a’r posibilrwydd o brinder dŵr yn yr haf.

Disgwylir i lefel y môr godi rhwng 22cm a 28cm erbyn y 2050au. Gallai hyn arwain at ddŵr hallt yn halogi tir amaethyddol a llifogydd mewn cymunedau arfordirol.

Beth yw’r prif risgiau i Gymru?

O’r 61 o risgiau a chyfleoedd a nodwyd yn yr Asesiad Annibynnol o Risgiau Newid Hinsawdd yn y DU, canfu’r adroddiad fod angen cymryd rhagor o gamau ar unwaith yng Nghymru i fynd i’r afael â 32ohonynt (mae’r crynodeb cenedlaethol llawn ar gyfer Cymru ar gael ar wefan Risgiau Hinsawdd y DU yma).  Mae’r asesiad hefyd yn dangos bod y risgiau yng Nghymru wedi cynyddu dros amser, gyda’r sgôr frys ar gyfer 26 o risgiau’n cynyddu ers yr asesiad risg blaenorol yn 2017.

Mae’r risgiau yng Nghymru a gafodd y sgôr frys uchaf yn cynnwys:

  • Effeithiau newid hinsawdd ar yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys rhywogaethau ar y tir, mewn dŵr croyw, ar yr arfordir ac yn y môr, a choedwigoedd ac amaethyddiaeth.
  • Cynnydd yn amrediad, niferoedd a chanlyniadau plâu, pathogenau a rhywogaethau goresgynnol, gan gael effaith negyddol ar gynefinoedd rhywogaethau â blaenoriaeth ar y tir, mewn dŵr croyw ac yn y môr, a choedwigaeth ac amaethyddiaeth.
  • Y risg o effeithiau newid hinsawdd, yn enwedig llifogydd mwy rheolaidd ac erydu arfordirol, gan achosi difrod i’n gwasanaethau seilwaith, gan gynnwys technolegau ynni, trafnidiaeth, dŵr a gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).
  • Effaith tymereddau eithafol, gwyntoedd cryf a mellt ar y rhwydwaith trafnidiaeth.
  • Effaith tymereddau cynyddol uchel ar iechyd a lles pobl.
  • Cartrefi, cymunedau a busnesau yn dioddef llifogydd mwy difrifol ac yn fwy rheolaidd.
  • Yr effaith ar fusnesau arfordirol oherwydd cynnydd yn lefel y môr, llifogydd ac erydu arfordirol
  • Tarfu ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd bod tywydd eithafol yn digwydd yn fwy rheolaidd.
  • Difrod i asedau treftadaeth ddiwylliannol o ganlyniad i dymheredd, glawiad, dŵr daear a newidiadau i’r dirwedd.
  • Effeithiau rhyngwladol a allai effeithio ar y DU, megis risgiau i argaeledd bwyd, diogelwch, risgiau i gyfraith ryngwladol a llywodraethu o ganlyniad i newid hinsawdd a fydd yn effeithio ar y DU, llwybrau masnach rhyngwladol, iechyd y cyhoedd – a risgiau’n cael eu lluosi ar draws systemau a gwledydd.

Mae llawer o’r risgiau hyn hefyd yn bygwth y DU, ond bydd rhai ohonynt yn cael effeithiau gwahanol yng Nghymru.

Er enghraifft, mae dros 2,000 o domenni glo yng Nghymru, yng Nghymoedd y De yn bennaf, a nodwyd bod 294 ohonynt yn peri risg uchel i drafnidiaeth a seilwaith arall. Ar ddechrau 2021, cafwyd llifogydd difrifol ym mhentref Sgiwen, yn dilyn Storm Christoph, ar ôl i siafft pwll glo lenwi â dŵr a thorri.

Mae Cymru hefyd yn elwa ar arfordir hir, ond mae hyn hefyd yn golygu bod rhagor o bobl sy’n byw yng Nghymru yn agored i lifogydd ac erydu arfordirol. Bydd y risg i hyfywedd cymunedau arfordirol yn codi i lefel uchel yng Nghymru erbyn diwedd y ganrif, yn uwch na’r lefelau a welir mewn rhannau eraill o’r DU. 

A ddylem ganolbwyntio ar leihau allyriadau er mwyn atal rhagor o newid i’r hinsawdd?

Dylem, mae’n bwysig bod Cymru yn gweithio i sicrhau allyriadau Sero-net cyn gynted â phosibl. Yn gynharach eleni ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wneud hyn erbyn 2050, yn seiliedig ar gyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd.

Yn anffodus, mae’n rhy hwyr i osgoi newid i’r hinsawdd yn y dyfodol yn gyfan gwbl, a bydd angen i Gymru addasu i newid yn yr hinsawdd ochr yn ochr â lleihau ein hallyriadau. Fodd bynnag, mae’r Asesiad Annibynnol diweddaraf o Risgiau Hinsawdd y DU yn dangos bod y bwlch rhwng camau ymaddasu a’r risgiau cynyddol i’r hinsawdd wedi ehangu. Mae hyn yn ei dro’n bygwth ymdrechion Cymru i gyrraedd Sero-net; er enghraifft, os nad yw gwasanaethau seilwaith yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, bydd cartrefi sydd newydd dderbyn cyflenwad trydan yn agored i golli pŵer.

Ond mae manteision pwysig hefyd. Mae llawer o gamau ymaddasu yn cynnig manteision nad ydynt yn gysylltiedig â newid hinsawdd. Er enghraifft, bydd cynyddu mannau gwyrdd trefol yn helpu i oeri ardaloedd adeiledig ac yn darparu mynediad i fannau natur a hamdden i drigolion. Ac mae tystiolaeth gynyddol o fanteision economaidd hefyd, gyda rhai mesurau ymaddasu’n cynnig manteision sy’n gorbwyso’r costau bum gwaith.

Felly, gall addasu i newid yn yr hinsawdd greu cymdeithas fwy cynaliadwy, wyrddach a glanach drwy ddod â phobl at ei gilydd i greu lleoedd gwell, drwy seilwaith gwyrdd trefol a gwledig; ansawdd aer gwell; atebion sy’n seiliedig ar natur a reolir yn lleol; llai o adnoddau’n cael eu gwastraffu; a gwyddoniaeth dinasyddion a chyfranogi mewn adeiladau cydnerthedd cymunedol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i gymryd camau i baratoi ar gyfer newid yn yr hinsawdd drwy gyhoeddi Ffyniant i bawb: Cymru sy’n Effro i’r Hinsawdd yn 2019, ei chynllun pum mlynedd ar gyfer addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi dweud y bydd yn adolygu’r cynllun hwn, yng ngoleuni’r dystiolaeth o asesiad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd o risgiau hinsawdd y DU, sy’n ymateb cadarnhaol i’w groesawu.

O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried materion newid hinsawdd. Gyda’i gilydd, gall y camau hyn helpu i sicrhau dyfodol gwyrddach a mwy cydnerth i bobl Cymru.

Mae ymgynghoriad ‘Llunio Dyfodol Cymru’ yn fyw! Cliciwch yma i gael mwy o fanylion.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s