Eleni, rydym yn gosod Cerrig Milltir Cenedlaethol i Gymru. Rydym yn gobeithio y bydd y cerrig milltir hyn yn chwarae rhan bwysig, ochr yn ochr â’r Rhaglen Lywodraethu, i gyflawni ein hymrwymiad i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach. Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ein syniadau ar werthoedd drafft ar gyfer cerrig milltir cenedlaethol mewn wyth maes pwysig, a dyma’r cerrig milltir cenedlaethol y byddwn yn eu gosod yn 2021 a’r meysydd rydym yn ceisio barn arnynt yn ein hymgynghoriad presennol ar Lunio Dyfodol Cymru.
Bydd pob carreg filltir genedlaethol yn cyfrannu at nifer o’r nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac, o’u hystyried gyda’i gilydd, bydd yn rhoi syniad da o gynnydd ein cenedl. Rydym yn bwriadu gosod cam cyntaf y cerrig milltir cenedlaethol i Gymru, gerbron y Senedd ym mis Rhagfyr 2021. Datblygwyd y gwerthoedd hyn gyda rhanddeiliaid mewn amryw o fforymau, digwyddiadau ymgysylltu a thrafodaethau.

Mae’r ffeithlun sydd wedi’i amgáu yn amlinellu ein cynigion ar gyfer cam cyntaf y cerrig milltir cenedlaethol a’r gwerthoedd yr hoffem gael eich barn arnynt. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 25 Hydref felly mae gennych ddigon o amser i ymateb a rhannu eich barn ac fe hoffem glywed safbwyntiau cymaint o bobl â phosibl ar y cynigion. Gallwch weld cwestiynau’n ymwneud â phob carreg filltir genedlaethol yma.