Cyhoeddi adroddiad ‘Llesiant Cymru’

Ar 29 Medi, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ‘Llesiant Cymru’, ynghyd ag adroddiad ar wahân ynghylch llesiant plant a phobl ifanc. Cafodd fersiynau hawdd eu deall o’r ddau adroddiad eu cyhoeddi yn ogystal. Eleni, rhoddwyd statws Ystadegau Gwladol i’r gyfres o allbynnau sy’n cwmpasu adroddiad ‘Llesiant Cymru’ a’r dangosfwrdd o Ddangosyddion Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu ei bod, yn ôl asesiad annibynnol, yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd, a gwerth.

Sut rydych chi’n defnyddio adroddiad ‘Llesiant Cymru’?

Ar hyn o bryd, rydym yn deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio i ryw raddau, ond rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r adroddiad, ac o wneud yr wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi yn fwy hygyrch ac addas i gynulleidfa eang. Mae deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio yn allweddol yn y cyswllt hwn.

I gasglu eich barn am y modd rydych chi’n defnyddio’r adroddiad llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol, a sut y gellir eu gwella, rydym wedi creu ffurflen arolwg lle y gallwch nodi eich sylwadau a’ch awgrymiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech ymateb erbyn 21 Tach 2022.

Diolch am roi o’ch amser i rannu eich barn, ac edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Edrych tuag at adroddiad Llesiant Cymru eleni

Caiff adroddiad blynyddol Llesiant Cymru ei gyhoeddi ar 29 Medi eleni. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar lesiant yng Nghymru i’n helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol a bennir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn edrych ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y 50 o ddangosyddion cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill.

Fel yn 2021, caiff adroddiad hawdd ei ddeall ei gyhoeddi yn ogystal â’r prif adroddiad i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gwybodaeth ystadegol am Gymru.

Yn 2018, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar wahân ar lesiant plant, ynghyd â phrif adroddiad Llesiant Cymru. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o lesiant plant yn seiliedig ar Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, yn ogystal â defnyddio Astudiaeth Cohort y Mileniwm a ffynonellau eraill megis data ar blant mewn aelwydydd heb waith o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Rydym wedi derbyn adborth bod bwlch yn y data am blant, felly eleni byddwn yn llunio adroddiad wedi’i ddiweddaru ar lesiant plant a phobl ifanc ochr yn ochr â’r prif adroddiad.

Beth arall sy’n newydd yn yr adroddiad eleni?

Eleni fydd y flwyddyn gyntaf y bydd adroddiad Llesiant Cymru yn adrodd ar y cerrig milltir cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir cenedlaethol yn helpu i fesur cyflymder y newid sydd ei angen i gyrraedd y nodau llesiant. Pennwyd y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021, ac fe adroddir arnynt yn adroddiad Llesiant Cymru eleni lle bo data ar gael. Mae ail gyfres y cerrig milltir cenedlaethol yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a disgwylir iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Hydref 2022.

Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaethom hefyd osod set o ddangosyddion cenedlaethol wedi’u diweddaru. Byddwn yn adrodd ar rai o’r dangosyddion newydd hyn am y tro cyntaf eleni. Maent yn cynnwys:

  • Canran y bobl mewn swyddi, sydd â chontractau parhaol (neu sydd â chontract dros dro, heb fod yn chwilio am swydd barhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol
  • Gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau, pobl anabl a phobl o wahanol ethnigrwydd
  • Cyfran y gweithwyr y caiff eu cyflog ei bennu drwy gydfargeinio
  • Dinasyddiaeth fyd-eang weithgar yng Nghymru
  • Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y blog hwn pan gaiff yr adroddiad ei gyhoeddi, a byddwn yn gofyn am eich adborth ar sut y gallwn barhau i’w wella.

Mapio’r dangosyddion cenedlaethol i’r nodau llesiant

Mewn neges ar y blog ym mis Ionawr, gofynnwyd am eich barn ar y ffordd y caiff y dangosyddion cenedlaethol presennol eu mapio yn erbyn y saith nod llesiant. Cafodd pob dangosydd ei fapio i un neu fwy o’r nodau llesiant pan cafodd y dangosyddion eu pennu’n wreiddiol. Mae hyn yn helpu i ddangos sut y mae pob dangosydd yn cyfrannu tuag at gyflawni nodau llesiant Cymru.

Diolch i bawb a ymatebodd i’r arolwg. Ar sail eich adborth, yn ogystal â thrafodaeth gyda grŵp bach o bobl o Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill â buddiant, penderfynom wneud rhai newidiadau. Fe wnaethom fapio dangosyddion i nodau ychwanegol lle teimlwyd bod cysylltiad amlwg rhwng cyflawni’r nod a’r eitem y mae’r dangosydd yn ei fesur, a chawsom wared arnynt lle roedd y cysylltiad hwnnw nawr yn llai eglur.

Ar y cyfan, dim ond nifer bach o newidiadau a wnaethom, sy’n dangos bod y cysylltiad gwreiddiol rhwng nodau a dangosyddion yn dal i fod yn berthnasol. Cafodd y rhan fwyaf o’r newidiadau eu gwneud i’r nod ‘bod yn gyfrifol yn fyd-eang’, lle gofynnom i ni ein hunan “a yw newid y dangosydd hwn yn cael effaith y tu allan i Gymru?”.

Rhif y Dangosydd  Enw’r DangosyddNewid i’r Nodau
5Canran y plant sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iachYchwanegu:
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu  
6Mesur o ddatblygiad plant bachYchwanegu:
Cymru iachach
11Y ganran o’r busnesau sydd wrthi’n arloesiGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
16Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddolGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
18Y ganran o’r bobl sy’n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU, wedi’i fesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwnGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
19Y ganran o’r bobl sy’n byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materolGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
23Y ganran sy’n teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leolYchwanegu:
Cymru lewyrchus
Cymru gydnerth
Cymru iachach Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Gwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
28Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoliYchwanegu:
Cymru lewyrchus
Cymru gydnerth
Cymru iachach
Cymru sy’n fwy cyfartal  

Gwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
47Canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnderGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
48Canran y teithiau a wneir drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddusGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cerrig Milltir Cenedlaethol – dweud eich dweud!

Ar 21 Mehefin 2021, lansiodd y Llywodraeth Cymru ymgynghoriad deuddeg wythnos ‘Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (cam dau).

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar osod cerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn cynorthwyo Gweinidogion i asesu cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio barn a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth i ni wneud y gwaith hwn ac rydym yn eich gwahodd i gyfrannu. Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y cynigion. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 12 Medi felly mae gennych ddigon o amser i ymateb a rhannu eich barn ac fe hoffem glywed safbwyntiau cymaint o bobl â phosibl ar y cynigion.

Byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith hwn drwy unrhyw gylchlythyrau neu rwydweithiau sydd gennych. Os oes gennych unrhyw ddigwyddiadau ymgysylltu eich hun ac yr hoffech i ni ddod draw i sôn am y gwaith hwn, rhowch wybod inni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol, gan fynd i’r afael â’r heriau digynsail sy’n ein hwynebu. Trwy ein Rhaglen Lywodraethu rydym yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gallwn wella bywydau pobl yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych ac at gydweithio i lunio dyfodol Cymru.

Ymestyn dyletswydd llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad sy’n ceisio barn ar ymestyn y ddyletswydd llesiant yn Rhan 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’r cyrff cyhoeddus a enwir. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar y cyfleoedd i gyrff cyhoeddus nad yw’r

Ddeddf yn berthnasol iddynt. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 14 Gorffennaf a 20 Hydref 2022.

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i lansio’r ymgynghoriad.

Mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar farn a phrofiadau sefydliadau a phobl ar draws Cymru wrth inni wneud y gwaith hwn, ac felly rydym yn eich gwahodd i gyfrannu.

Mae ymgynghoriad ‘Llunio Dyfodol Cymru’ yn fyw!

Heddiw rydym wedi cyhoeddi’r ymgynghoriad ar ‘Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (cam dau).

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar osod cerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn cynorthwyo Gweinidogion i asesu cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored o 21 Mehefin i 12 Medi  2022 ac yn ystod y cyfnod hynny byddwn yn ymgymryd â rhaglen ymgysylltu i godi proffil y gwaith pwysig hwn a cheisio barn ehangach.

Mae’r Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i lansio’r ymgynghoriad.

Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio barn a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth i ni wneud y gwaith hwn ac rydym yn eich gwahodd i gyfrannu!

Dangosyddion Cenedlaethol: mapio’r dangosyddion i’r nodau llesiant

Mewn darn blog blaenorol ar y dangosyddion cenedlaethol, fe wnaethon ni ofyn am eich barn ar y set o ddangosyddion llesiant cenedlaethol, ac unrhyw fylchau y mae’r pandemig wedi’u hamlygu sy’n bwysig i lesiant cenedlaethol.

Cafodd y dangosyddion hyn eu gosod gan Weinidogion Cymru i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant. Cafodd pob dangosydd ei fapio i un neu ragor o’r nodau llesiant fel rhan o ymgynghoriad yn 2015-16 a’r gwaith o osod dangosyddion. Yn sgil adborth diweddar, hoffem glywed eich barn ar y ffordd y mae’r dangosyddion wedi’u mapio i nodau ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod hyn yn dal i fod y gorau y gall fod.

Beth yw’r nodau llesiant?

Mae’r saith nod llesiant yn dangos y math o Gymru rydym eisiau ei gweld. Gyda’i gilydd maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, i weithio tuag ati. Maent yn gyfres o nodau – mae’r Ddeddf yn datgan yn glir bod rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni’r holl nodau, nid dim ond un neu ddau. Dyma’r nodau:

  • Cymru Lewyrchus – Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
  • Cymru Gydnerth – Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).
  • Cymru Iachach – Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
  • Cymru sy’n Fwy Cyfartal – Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus – Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu – Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
  • Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang – Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae nod 7 yn cydnabod, mewn byd rhyng-gysylltiedig, gall yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n genedl gynaliadwy gael effeithiau cadarnhaol a negyddol y tu allan i Gymru.

Mae’r ffordd y mae’r dangosyddion wedi’u mapio i nodau ar hyn o bryd i’w gweld yn y ffeithlun isod ac ar y dangosfwrdd dangosyddion cenedlaethol, neu drwy ddefnyddio’r offeryn rhyngweithiol ar gyfer mapio’r dangosyddion i’r Nodau Llesiant a Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Ailfapio’r dangosyddion: Sut allwch chi helpu

I gasglu’ch barn ar y ffordd y mae’r dangosyddion cenedlaethol wedi’u mapio i’r nodau llesiant, rydym wedi creu ffurflen arolwg sy’n eich galluogi i glustnodi dangosyddion i’r nodau hynny yr ydych chi’n credu sydd fwyaf addas. Ar gyfer pob dangosydd, gallwch ychwanegu nodau, dileu nodau nad ydych yn teimlo sy’n briodol i’r dangosydd hwnnw, neu adael y nodau sydd wedi’u mapio ar gyfer y dangosydd ar hyn o bryd.

Cyn awgrymu newidiadau ar gyfer dangosydd, cofiwch ddarllen y disgrifiad o’r nod rydych am ei ychwanegu neu ei ddileu. Mae rhagor o wybodaeth am y dangosyddion ar gael ar eu tudalennau gwe ar-lein neu yn y ddogfen disgrifiad technegol.

Rhannwch eich barn â ni erbyn 11 Chwefror 2022 os gwelwch yn dda.

Diolch am roi o’ch amser i rannu’ch barn, a hwyl ichi ar y mapio!

Fel yr arfer, mae croeso ichi anfon unrhyw sylwadau neu awgrymiadau i’r mewnflwch Llunio Dyfodol Cymru.   

E-bost: ShapingWalesFuture@llyw.cymru

Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Dangosyddion a Cherrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl

Fel rhan o’r rhaglen Llunio Dyfodol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r cam cyntaf o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru o dan y saith nod llesiant, cyfres wedi’i diweddaru o ddangosyddion llesiant cenedlaethol, a’r ail rifyn o Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Cymru.

Mae’r rhain yn dair rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n rhoi gwybod inni am y cynnydd rydyn ni’n ei wneud tuag at gyrraedd ein nodau llesiant; yn ein helpu i ddeall yn well unrhyw heriau y byddwn efallai’n dod ar eu traws ar y ffordd; ac yn sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd sydd gennym i wneud pethau’n well. Gallwch weld y cyhoeddiadau yma:

Cerrig milltir cenedlaethol

Dangosyddion cenedlaethol wedi’u diweddaru

Ymgynghoriad – crynodeb o’r ymatebion

Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Cymru 2021

Byddwn yn defnyddio cyhoeddiad y cerrig milltir cenedlaethol, dangosyddion wedi’u diweddaru, ac Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol fel llwyfan i ganolbwyntio o’r newydd ar yr hyn sy’n bwysig i Gymru a lle mae angen cynnydd, ac i sicrhau ein bod wedi ein paratoi’n well i ymateb i’r heriau a manteisio ar y cyfleoedd niferus sydd o’n blaenau.

Gweithdy Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus: tueddiadau’r dyfodol ac asesiadau llesiant lleol

Yn ddiweddar, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfres o weithdai gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) ledled Cymru ar ystyried tueddiadau’r dyfodol fel rhan o’u hasesiadau llesiant lleol. Nod y gweithdai oedd archwilio’r tueddiadau a allai fod yn ysgogi newid yn yr hirdymor a sut y gall technegau meddwl am y dyfodol helpu BGCau i werthuso beth all hynny ei olygu i’w hasesiadau llesiant.

Cefndir

Cyn cyhoeddi Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021 ym mis Rhagfyr, roedd y gweithdai’n gyfle i atgyfnerthu pwysigrwydd ymgorffori ffordd o feddwl yn yr hirdymor wrth asesu llesiant lleol.

O dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rhaid i BGCau gyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd cyn dyddiad etholiad llywodraeth leol cyffredin. Rhaid iddynt gyhoeddi eu cynlluniau llesiant o fewn blwyddyn i’r etholiadau hynny.

Rhaid i’r asesiad gynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol yn y dyfodol a all effeithio ar lesiant yr ardal, a chyfeirio at Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol i sicrhau yr ystyrir anghenion hirdymor yr ardal.

Archwilio dynameg newid

Nod y gweithdai oedd darparu cyfle i BGCau drafod y tueddiadau allweddol a fydd yn cael eu cynnwys yn Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol, i ba raddau y gallai’r tueddiadau hyn fod yn berthnasol i’r rhanbarthau amrywiol yng Nghymru, a sut y gallent effeithio ar gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rhoddwyd rhestr o dueddiadau tebygol i fynychwyr y gweithdai a gofynnwyd iddynt gwblhau matrics effaith a sicrwydd yn defnyddio’r llwyfan digidol ar gyfer cydweithio, MURAL. Gall categoreiddio’r tueddiadau fel hyn helpu i nodi pa gamau nesaf, os o gwbl, sy’n ofynnol (gweler Ffigur 1). Roedd yr ymarfer hwn, a oedd yn canolbwyntio ar y dyfodol, yn gofyn i fynychwyr ystyried beth fyddai effaith pob tuedd ar eu hardal leol a meddwl am ba mor sicr ydynt am yr effaith, a pha mor bwysig y credant y bydd yn nhermau effeithio ar lesiant. Gyda chymorth swyddogion, aeth mynychwyr o’r BGCau ati i archwilio effeithiau posibl tuedd benodol lle’r oeddent yn teimlo bod yr effaith bosibl yn bwysig ond yn ansicr. Gofynnwyd cwestiynau allweddol yn ystod y gweithdy:

  • Beth allai canlyniad posibl y duedd hon fod?
  • A ydych chi’n ystyried y duedd hon yn gyfle neu’n fygythiad?
  • Pa gamau allwch chi eu cymryd i harneisio’r cyfle hwn neu liniaru’r bygythiad hwn?
  • Gyda phwy arall y mae angen ichi ymgysylltu i’ch helpu i ddeall y mater yn well neu weithredu?
Ffigur 1. Matrics effaith a sicrwydd (nid polisi Llywodraeth Cymru)

Amlinellwyd rhai egwyddorion allweddol yn ystod y gweithdy hefyd, gan gynnwys:

Croesawu a rheoli ansicrwydd

Wrth ddelio ag ansicrwydd, po fwyaf yr ydych yn meddwl am beth allai ddod o senarios gwahanol, y mwyaf o gwestiynau ac ansicrwydd yr ydych yn debygol o’u hwynebu. Mae’r dyfodol yn lle ansicr a nod meddwl am y dyfodol yw, nid dod o hyd i’r ateb ‘cywir’, ond sut mae gwneud y penderfyniadau gorau posibl drwy feddwl am yr holl bosibiliadau, a mynd at wraidd rhagdybiaethau a rhagfarnau.

Cynnwys eraill

Mae’n bwysig cynnwys pobl sydd â diddordeb yn llesiant yr ardal i ddeall effeithiau posibl tueddiadau yn well. Bydd cynnwys safbwyntiau amrywiol yn herio rhagdybiaethau sydd eisoes yn bodoli ac yn datgelu mannau dall. Dylai unrhyw un sy’n debygol o ddefnyddio allbynnau’r asesiad gyfrannu at eu datblygu os yw’n bosibl.

Symud tuag at feddwl am y dyfodol mewn modd mwy ymwybodol

Mae ‘meddwl am y dyfodol’, neu ‘gynllunio senarios’ yn rhywbeth y mae pobl yn ei wneud bob dydd – rydym yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn ei ragweld o ganlyniad. Mae’n bwysig cofio nad ydym yn wylwyr goddefol; mae gennym rôl i’w chwarae wrth lunio’r dyfodol.

Y canlyniad

Helpodd y gweithdai 90 munud o hyd i ddechrau datgelu’r tueddiadau y mae angen i BGCau feddwl amdanynt a’u monitro, a’r rhai hynny sy’n bwysig i lesiant ardal ond mae eu canlyniad yn ansicr. Helpodd y gweithdai i gryfhau dealltwriaeth am dueddiadau a nodi rhai bylchau cychwynnol mewn gwybodaeth. Gwnaethant hefyd helpu mynychwyr i ystyried rhanddeiliaid eraill i’w cynnwys wrth symud ymlaen. Yn ogystal â hyn, rhoddodd y gweithdai brofiad ymarferol i fynychwyr o ymarfer yn seiliedig ar y dyfodol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer ymarferion eraill o’r fath o fewn y BGCau.

Roedd yr ymarfer seiliedig ar y dyfodol a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdai wedi’i seilio ar yr offeryn ‘Driver Mapping’ sydd wedi’i gynnwys yn Futures Toolkit Llywodraeth y DU. Dim ond un o sawl offeryn gwahanol yw’r ymarfer hwn a all helpu i ymgorffori ffordd strategol o feddwl yn yr hirdymor wrth asesu llesiant lleol. Mae llawer o offerynnau seiliedig ar y dyfodol yn hyblyg, a gellir eu haddasu yn ôl yr angen. Byddem yn annog darllenwyr i archwilio rhai o’r offerynnau a’r adnoddau eraill yn seiliedig ar y dyfodol sydd ar gael:

Gweminar: Llunio Dyfodol Cymru

Ar 1 Medi 2021, lansiodd y Llywodraeth Cymru ymgynghoriad wyth wythnos Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd ein cenedl.

I gyflwyno’r ymgynghoriad, rydym yn eich gwahodd i fynychu gweminar ymgynghori lle byddwn yn:

  • Esbonio’r rhaglen Llunio Dyfodol Cymru a’r rôl y mae cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol yn ei chwarae fel rhan o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Amlinellu’r cynigion ar gerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol yr ydym yn ymgynghori arnynt.
  • Rhannu sut i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Bydd y gweminar yn rhedeg ar Microsoft Teams a bydd mynychwyr cofrestredig yn derbyn eu cyfarwyddiadau ymuno drwy e-bost y diwrnod cyn y digwyddiad.

Am ragor o fanylion ac i gofrestru ewch i Tocyn Cymu:

7 Hydref 2021 13:30-14:00

https://tocyn.cymru/event/0eee2ee5-c59e-474d-835d-93b3aac3034e/s

Cerrig Milltir Cenedlaethol – dweud eich dweud!

Eleni, rydym yn gosod Cerrig Milltir Cenedlaethol i Gymru. Rydym yn gobeithio y bydd y cerrig milltir hyn yn chwarae rhan bwysig, ochr yn ochr â’r Rhaglen Lywodraethu, i gyflawni ein hymrwymiad i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach. Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu ein syniadau ar werthoedd drafft ar gyfer cerrig milltir cenedlaethol mewn wyth maes pwysig, a dyma’r cerrig milltir cenedlaethol y byddwn yn eu gosod yn 2021 a’r meysydd rydym yn ceisio barn arnynt yn ein hymgynghoriad presennol ar Lunio Dyfodol Cymru.

Parhau i ddarllen