Ar 21 Mehefin 2021, lansiodd y Llywodraeth Cymru ymgynghoriad deuddeg wythnos ‘Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (cam dau).
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar osod cerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn cynorthwyo Gweinidogion i asesu cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio barn a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth i ni wneud y gwaith hwn ac rydym yn eich gwahodd i gyfrannu. Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y cynigion. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 12 Medi felly mae gennych ddigon o amser i ymateb a rhannu eich barn ac fe hoffem glywed safbwyntiau cymaint o bobl â phosibl ar y cynigion.
Byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith hwn drwy unrhyw gylchlythyrau neu rwydweithiau sydd gennych. Os oes gennych unrhyw ddigwyddiadau ymgysylltu eich hun ac yr hoffech i ni ddod draw i sôn am y gwaith hwn, rhowch wybod inni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol, gan fynd i’r afael â’r heriau digynsail sy’n ein hwynebu. Trwy ein Rhaglen Lywodraethu rydym yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gallwn wella bywydau pobl yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych ac at gydweithio i lunio dyfodol Cymru.