Caiff adroddiad blynyddol Llesiant Cymru ei gyhoeddi ar 29 Medi eleni. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar lesiant yng Nghymru i’n helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol a bennir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn edrych ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y 50 o ddangosyddion cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill.
Fel yn 2021, caiff adroddiad hawdd ei ddeall ei gyhoeddi yn ogystal â’r prif adroddiad i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gwybodaeth ystadegol am Gymru.
Yn 2018, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar wahân ar lesiant plant, ynghyd â phrif adroddiad Llesiant Cymru. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o lesiant plant yn seiliedig ar Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, yn ogystal â defnyddio Astudiaeth Cohort y Mileniwm a ffynonellau eraill megis data ar blant mewn aelwydydd heb waith o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Rydym wedi derbyn adborth bod bwlch yn y data am blant, felly eleni byddwn yn llunio adroddiad wedi’i ddiweddaru ar lesiant plant a phobl ifanc ochr yn ochr â’r prif adroddiad.
Beth arall sy’n newydd yn yr adroddiad eleni?
Eleni fydd y flwyddyn gyntaf y bydd adroddiad Llesiant Cymru yn adrodd ar y cerrig milltir cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir cenedlaethol yn helpu i fesur cyflymder y newid sydd ei angen i gyrraedd y nodau llesiant. Pennwyd y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021, ac fe adroddir arnynt yn adroddiad Llesiant Cymru eleni lle bo data ar gael. Mae ail gyfres y cerrig milltir cenedlaethol yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a disgwylir iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Hydref 2022.
Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaethom hefyd osod set o ddangosyddion cenedlaethol wedi’u diweddaru. Byddwn yn adrodd ar rai o’r dangosyddion newydd hyn am y tro cyntaf eleni. Maent yn cynnwys:
- Canran y bobl mewn swyddi, sydd â chontractau parhaol (neu sydd â chontract dros dro, heb fod yn chwilio am swydd barhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol
- Gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau, pobl anabl a phobl o wahanol ethnigrwydd
- Cyfran y gweithwyr y caiff eu cyflog ei bennu drwy gydfargeinio
- Dinasyddiaeth fyd-eang weithgar yng Nghymru
- Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y blog hwn pan gaiff yr adroddiad ei gyhoeddi, a byddwn yn gofyn am eich adborth ar sut y gallwn barhau i’w wella.
Mapio’r dangosyddion cenedlaethol i’r nodau llesiant
Mewn neges ar y blog ym mis Ionawr, gofynnwyd am eich barn ar y ffordd y caiff y dangosyddion cenedlaethol presennol eu mapio yn erbyn y saith nod llesiant. Cafodd pob dangosydd ei fapio i un neu fwy o’r nodau llesiant pan cafodd y dangosyddion eu pennu’n wreiddiol. Mae hyn yn helpu i ddangos sut y mae pob dangosydd yn cyfrannu tuag at gyflawni nodau llesiant Cymru.
Diolch i bawb a ymatebodd i’r arolwg. Ar sail eich adborth, yn ogystal â thrafodaeth gyda grŵp bach o bobl o Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill â buddiant, penderfynom wneud rhai newidiadau. Fe wnaethom fapio dangosyddion i nodau ychwanegol lle teimlwyd bod cysylltiad amlwg rhwng cyflawni’r nod a’r eitem y mae’r dangosydd yn ei fesur, a chawsom wared arnynt lle roedd y cysylltiad hwnnw nawr yn llai eglur.
Ar y cyfan, dim ond nifer bach o newidiadau a wnaethom, sy’n dangos bod y cysylltiad gwreiddiol rhwng nodau a dangosyddion yn dal i fod yn berthnasol. Cafodd y rhan fwyaf o’r newidiadau eu gwneud i’r nod ‘bod yn gyfrifol yn fyd-eang’, lle gofynnom i ni ein hunan “a yw newid y dangosydd hwn yn cael effaith y tu allan i Gymru?”.