Sut rydych chi’n defnyddio adroddiad ‘Llesiant Cymru’?
Ar hyn o bryd, rydym yn deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio i ryw raddau, ond rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r adroddiad, ac o wneud yr wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi yn fwy hygyrch ac addas i gynulleidfa eang. Mae deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio yn allweddol yn y cyswllt hwn.
I gasglu eich barn am y modd rydych chi’n defnyddio’r adroddiad llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol, a sut y gellir eu gwella, rydym wedi creu ffurflen arolwg lle y gallwch nodi eich sylwadau a’ch awgrymiadau.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech ymateb erbyn 21 Tach 2022.
Diolch am roi o’ch amser i rannu eich barn, ac edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Caiff adroddiad blynyddol Llesiant Cymru ei gyhoeddi ar 29 Medi eleni. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar lesiant yng Nghymru i’n helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol a bennir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn edrych ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y 50 o ddangosyddion cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill.
Fel yn 2021, caiff adroddiad hawdd ei ddeall ei gyhoeddi yn ogystal â’r prif adroddiad i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gwybodaeth ystadegol am Gymru.
Yn 2018, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar wahân ar lesiant plant, ynghyd â phrif adroddiad Llesiant Cymru. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o lesiant plant yn seiliedig ar Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, yn ogystal â defnyddio Astudiaeth Cohort y Mileniwm a ffynonellau eraill megis data ar blant mewn aelwydydd heb waith o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Rydym wedi derbyn adborth bod bwlch yn y data am blant, felly eleni byddwn yn llunio adroddiad wedi’i ddiweddaru ar lesiant plant a phobl ifanc ochr yn ochr â’r prif adroddiad.
Beth arall sy’n newydd yn yr adroddiad eleni?
Eleni fydd y flwyddyn gyntaf y bydd adroddiad Llesiant Cymru yn adrodd ar y cerrig milltir cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir cenedlaethol yn helpu i fesur cyflymder y newid sydd ei angen i gyrraedd y nodau llesiant. Pennwyd y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021, ac fe adroddir arnynt yn adroddiad Llesiant Cymru eleni lle bo data ar gael. Mae ail gyfres y cerrig milltir cenedlaethol yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a disgwylir iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Hydref 2022.
Canran y bobl mewn swyddi, sydd â chontractau parhaol (neu sydd â chontract dros dro, heb fod yn chwilio am swydd barhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol
Gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau, pobl anabl a phobl o wahanol ethnigrwydd
Cyfran y gweithwyr y caiff eu cyflog ei bennu drwy gydfargeinio
Dinasyddiaeth fyd-eang weithgar yng Nghymru
Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai
Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y blog hwn pan gaiff yr adroddiad ei gyhoeddi, a byddwn yn gofyn am eich adborth ar sut y gallwn barhau i’w wella.
Mapio’r dangosyddion cenedlaethol i’r nodau llesiant
Mewn neges ar y blog ym mis Ionawr, gofynnwyd am eich barn ar y ffordd y caiff y dangosyddion cenedlaethol presennol eu mapio yn erbyn y saith nod llesiant. Cafodd pob dangosydd ei fapio i un neu fwy o’r nodau llesiant pan cafodd y dangosyddion eu pennu’n wreiddiol. Mae hyn yn helpu i ddangos sut y mae pob dangosydd yn cyfrannu tuag at gyflawni nodau llesiant Cymru.
Diolch i bawb a ymatebodd i’r arolwg. Ar sail eich adborth, yn ogystal â thrafodaeth gyda grŵp bach o bobl o Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill â buddiant, penderfynom wneud rhai newidiadau. Fe wnaethom fapio dangosyddion i nodau ychwanegol lle teimlwyd bod cysylltiad amlwg rhwng cyflawni’r nod a’r eitem y mae’r dangosydd yn ei fesur, a chawsom wared arnynt lle roedd y cysylltiad hwnnw nawr yn llai eglur.
Ar y cyfan, dim ond nifer bach o newidiadau a wnaethom, sy’n dangos bod y cysylltiad gwreiddiol rhwng nodau a dangosyddion yn dal i fod yn berthnasol. Cafodd y rhan fwyaf o’r newidiadau eu gwneud i’r nod ‘bod yn gyfrifol yn fyd-eang’, lle gofynnom i ni ein hunan “a yw newid y dangosydd hwn yn cael effaith y tu allan i Gymru?”.
Mewn darn blog blaenorol ar y dangosyddion cenedlaethol, fe wnaethon ni ofyn am eich barn ar y set o ddangosyddion llesiant cenedlaethol, ac unrhyw fylchau y mae’r pandemig wedi’u hamlygu sy’n bwysig i lesiant cenedlaethol.
Cafodd y dangosyddion hyn eu gosod gan Weinidogion Cymru i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant. Cafodd pob dangosydd ei fapio i un neu ragor o’r nodau llesiant fel rhan o ymgynghoriad yn 2015-16 a’r gwaith o osod dangosyddion. Yn sgil adborth diweddar, hoffem glywed eich barn ar y ffordd y mae’r dangosyddion wedi’u mapio i nodau ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod hyn yn dal i fod y gorau y gall fod.
Beth yw’r nodau llesiant?
Mae’r saith nod llesiant yn dangos y math o Gymru rydym eisiau ei gweld. Gyda’i gilydd maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, i weithio tuag ati. Maent yn gyfres o nodau – mae’r Ddeddf yn datgan yn glir bod rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni’r holl nodau, nid dim ond un neu ddau. Dyma’r nodau:
Cymru Lewyrchus – Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
Cymru Gydnerth – Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).
Cymru Iachach – Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Cymru sy’n Fwy Cyfartal – Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
Cymru o Gymunedau Cydlynus – Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu – Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang – Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae nod 7 yn cydnabod, mewn byd rhyng-gysylltiedig, gall yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n genedl gynaliadwy gael effeithiau cadarnhaol a negyddol y tu allan i Gymru.
I gasglu’ch barn ar y ffordd y mae’r dangosyddion cenedlaethol wedi’u mapio i’r nodau llesiant, rydym wedi creu ffurflen arolwg sy’n eich galluogi i glustnodi dangosyddion i’r nodau hynny yr ydych chi’n credu sydd fwyaf addas. Ar gyfer pob dangosydd, gallwch ychwanegu nodau, dileu nodau nad ydych yn teimlo sy’n briodol i’r dangosydd hwnnw, neu adael y nodau sydd wedi’u mapio ar gyfer y dangosydd ar hyn o bryd.
Cyn awgrymu newidiadau ar gyfer dangosydd, cofiwch ddarllen y disgrifiad o’r nod rydych am ei ychwanegu neu ei ddileu. Mae rhagor o wybodaeth am y dangosyddion ar gael ar eu tudalennau gwe ar-lein neu yn y ddogfen disgrifiad technegol.
Rhannwch eich barn â ni erbyn 11 Chwefror 2022 os gwelwch yn dda.
Diolch am roi o’ch amser i rannu’ch barn, a hwyl ichi ar y mapio!