Mewn darn blog blaenorol ar y dangosyddion cenedlaethol, fe wnaethon ni ofyn am eich barn ar y set o ddangosyddion llesiant cenedlaethol, ac unrhyw fylchau y mae’r pandemig wedi’u hamlygu sy’n bwysig i lesiant cenedlaethol.
Cafodd y dangosyddion hyn eu gosod gan Weinidogion Cymru i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant. Cafodd pob dangosydd ei fapio i un neu ragor o’r nodau llesiant fel rhan o ymgynghoriad yn 2015-16 a’r gwaith o osod dangosyddion. Yn sgil adborth diweddar, hoffem glywed eich barn ar y ffordd y mae’r dangosyddion wedi’u mapio i nodau ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod hyn yn dal i fod y gorau y gall fod.
Beth yw’r nodau llesiant?
Mae’r saith nod llesiant yn dangos y math o Gymru rydym eisiau ei gweld. Gyda’i gilydd maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, i weithio tuag ati. Maent yn gyfres o nodau – mae’r Ddeddf yn datgan yn glir bod rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni’r holl nodau, nid dim ond un neu ddau. Dyma’r nodau:
- Cymru Lewyrchus – Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
- Cymru Gydnerth – Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, newid yn yr hinsawdd).
- Cymru Iachach – Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
- Cymru sy’n Fwy Cyfartal – Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
- Cymru o Gymunedau Cydlynus – Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
- Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu – Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
- Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang – Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae nod 7 yn cydnabod, mewn byd rhyng-gysylltiedig, gall yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n genedl gynaliadwy gael effeithiau cadarnhaol a negyddol y tu allan i Gymru.
Mae’r ffordd y mae’r dangosyddion wedi’u mapio i nodau ar hyn o bryd i’w gweld yn y ffeithlun isod ac ar y dangosfwrdd dangosyddion cenedlaethol, neu drwy ddefnyddio’r offeryn rhyngweithiol ar gyfer mapio’r dangosyddion i’r Nodau Llesiant a Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Ailfapio’r dangosyddion: Sut allwch chi helpu
I gasglu’ch barn ar y ffordd y mae’r dangosyddion cenedlaethol wedi’u mapio i’r nodau llesiant, rydym wedi creu ffurflen arolwg sy’n eich galluogi i glustnodi dangosyddion i’r nodau hynny yr ydych chi’n credu sydd fwyaf addas. Ar gyfer pob dangosydd, gallwch ychwanegu nodau, dileu nodau nad ydych yn teimlo sy’n briodol i’r dangosydd hwnnw, neu adael y nodau sydd wedi’u mapio ar gyfer y dangosydd ar hyn o bryd.
Cyn awgrymu newidiadau ar gyfer dangosydd, cofiwch ddarllen y disgrifiad o’r nod rydych am ei ychwanegu neu ei ddileu. Mae rhagor o wybodaeth am y dangosyddion ar gael ar eu tudalennau gwe ar-lein neu yn y ddogfen disgrifiad technegol.
Rhannwch eich barn â ni erbyn 11 Chwefror 2022 os gwelwch yn dda.
Diolch am roi o’ch amser i rannu’ch barn, a hwyl ichi ar y mapio!
Fel yr arfer, mae croeso ichi anfon unrhyw sylwadau neu awgrymiadau i’r mewnflwch Llunio Dyfodol Cymru.

E-bost: ShapingWalesFuture@llyw.cymru