Darllenwch y dudalen hon yn Gymraeg
Beth allwch chi ei ddisgwyl o’r blog hwn
Bydd y blog hwn yn ceisio eich barn ar sut rydym yn llunio dyfodol Cymru drwy ein gwaith ar lesiant yn Llywodraeth Cymru. Yr hyn sy’n allweddol i lunio dyfodol Cymru yw sut rydym yn mesur cynnydd Cymru drwy ein Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol, yn nodi’r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol drwy osod Cerrig Milltir Cenedlaethol, ac yn deall beth fydd yn llunio dyfodol Cymru drwy Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol ar gyfer Cymru. Gyda’i gilydd bydd y rhain yn chwarae rhan bwysig o ran darparu’r cyfeiriad ar gyfer Cymru yn y dyfodol wrth inni symud tuag at ailgodi ac adferiad.
Rydym yn gobeithio y bydd y blog hwn yn eich annog i weithio gyda ni ar y meysydd gwaith hyn. Ein nod yw gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r gwaith rydym yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth o sut y bydd y ffrydiau hyn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cyfranwyr y blog
Bydd cynnwys y blog yn cael ei ysgrifennu gan amryw o bobl yn Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar draws ystod o feysydd polisi gwahanol.
Yn achlysurol bydd pobl o’r tu allan i Lywodraeth Cymru’n ysgrifennu cynnwys blog i ni. Barn ein blogwyr gwadd sydd yn y darnau hyn ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn na pholisïau Llywodraeth Cymru. Ar brydiau, efallai y cyfeirir at gynnyrch, gwasanaethau neu wefannau amrywiol. Nid yw hynny’n golygu bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi nac yn argymell y rhain mewn unrhyw fodd.
Sut i gysylltu
Ar waelod pob darn yn y blog, gallwch gyflwyno sylw neu gwestiwn. Cyfeiriwch at y Canllawiau Cyfranogi i weld ein telerau ymgysylltu ac amseroedd ymateb.