Ar 1 Medi 2021, lansiodd y Llywodraeth Cymru ymgynghoriad wyth wythnos Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol i fesur cynnydd ein cenedl.
I gyflwyno’r ymgynghoriad, rydym yn eich gwahodd i fynychu gweminar ymgynghori lle byddwn yn:
- Esbonio’r rhaglen Llunio Dyfodol Cymru a’r rôl y mae cerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol yn ei chwarae fel rhan o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Amlinellu’r cynigion ar gerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol yr ydym yn ymgynghori arnynt.
- Rhannu sut i gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Bydd y gweminar yn rhedeg ar Microsoft Teams a bydd mynychwyr cofrestredig yn derbyn eu cyfarwyddiadau ymuno drwy e-bost y diwrnod cyn y digwyddiad.
Am ragor o fanylion ac i gofrestru ewch i Tocyn Cymu:
7 Hydref 2021 13:30-14:00
https://tocyn.cymru/event/0eee2ee5-c59e-474d-835d-93b3aac3034e/s