Adroddiad Llesiant Cymru 2021

Rydym heddiw wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol Llesiant Cymru. Mae’n rhoi cipolwg ar gyflwr y wlad a’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn y saith nod llesiant.

Chwe blynedd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 ddod i rym, rydym wedi pwyso a mesur, ym mhob pennod, yr hyn rydym wedi’i ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal ag asesu’r cynnydd tymor hir tuag at y nodau gan ddefnyddio’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol a data eraill.

Fel gydag adroddiad y llynedd, mae’r pandemig wedi parhau i effeithio ar rywfaint o’r data.Mae rhai casgliadau data wedi cael eu gohirio ac mae eraill wedi gorfod newid eu dull er mwyn gallu ymdrin â heriau’r pandemig. Nid yw data ar gyfer rhai dangosyddion cenedlaethol yn berthnasol i gyfnod y pandemig eto. Lle mae data wedi parhau i fod ar gael, wrth reswm, mae’r tueddiadau’n edrych yn wahanol iawn eleni ar gyfer rhai pynciau, ac mae hyn yn fwy amlwg i rai grwpiau mewn cymdeithas nag eraill. Mae hyn i gyd yn ychwanegu at gymhlethdod dehongli cynnydd hirdymor Cymru tuag at y nodau llesiant, gydag effaith lawn y pandemig yn debygol o ddigwydd dros nifer o flynyddoedd i ddod.

Un o’r themâu sy’n deillio o adroddiad eleni yw effaith y pandemig ar anghydraddoldebau sydd, mewn nifer o achosion, wedi ehangu. Er enghraifft, roedd pobl hŷn, dynion a phobl mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19. Yn y farchnad lafur, cafwyd effaith anghymesur ar grwpiau a oedd eisoes o dan anfantais, gan gynnwys pobl mewn swyddi â chyflog isel, mewn swyddi llai diogel, pobl ifanc a phobl sy’n cyrraedd diwedd eu bywydau gweithio. Mae’r bwlch ym mherfformiad ysgolion rhwng y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys wedi ehangu yn y graddau TGAU uchaf, bu cynnydd hefyd yn yr anghydraddoldebau o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau bellach ar ei gyfradd isaf erioed ac mae cydlyniant cymunedol wedi gwella’n sylweddol.

Argyfwng mawr arall sy’n wynebu’r byd yw’r argyfwng hinsawdd a natur. Mae adroddiad eleni yn cynnwys canfyddiadau o’r asesiad diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru sy’n dod i’r casgliad bod amrywiaeth fiolegol wedi dirywio a bod Cymru’n defnyddio adnoddau ar gyfradd anghynaliadwy. Mae cynnydd yn cael ei wneud mewn rhai meysydd, mae Cymru’n parhau i fod yn un o’r gwledydd gorau yn y byd o ran ailgylchu ac mae cynnydd pellach wedi bod o ran capasiti ynni adnewyddadwy. Mae nifer y cerbydau allyriadau isel iawn sydd wedi’u cofrestru wedi treblu (er bod hynny o lefel isel). Fodd bynnag, mae cyflymder y newid sydd ei angen yn debygol o fod yn llawer mwy yn y dyfodol.

Newidiadau sydd ar y gweill i’r dangosyddion cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio’r set o 46 o ddangosyddion cenedlaethol er mwyn asesu cynnydd tuag at saith nod llesiant Cymru. Fel y byddwch wedi clywed ar y blog o’r blaen, rydym wedi manteisio eleni ar y cyfle i edrych eto ar y set o ddangosyddion cenedlaethol a nodi lle mae’r pandemig wedi tynnu sylw at fylchau. O ganlyniad, rydym yn ymgynghori ar ddau atodiad posibl i’r dangosyddion ar ddulliau teithio a chynhwysiant digidol, yn ogystal â cheisio barn ar unrhyw fylchau eraill.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn nodi cynigion ar gyfer y cerrig milltir cenedlaethol cyntaf erioed. Mae cerrig milltir yn uchelgais fesuradwy sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Mae’r ymgynghoriad yn cynnwys cynigion ar gyfer naw carreg filltir yn erbyn wyth o’r dangosyddion cenedlaethol.

Mae’r ymgynghoriad ar gerrig milltir a dangosyddion cenedlaethol ar agor tan 26 Hydref ac edrychaf ymlaen at glywed eich barn.

Bydd adroddiad Llesiant Cymru y flwyddyn nesaf yn ymdrin â’r dangosyddion newydd yn ogystal ag adrodd yn erbyn y cerrig milltir cenedlaethol.

Stephanie Howarth

Prif Ystadegydd

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s