Yn ddiweddar, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfres o weithdai gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) ledled Cymru ar ystyried tueddiadau’r dyfodol fel rhan o’u hasesiadau llesiant lleol. Nod y gweithdai oedd archwilio’r tueddiadau a allai fod yn ysgogi newid yn yr hirdymor a sut y gall technegau meddwl am y dyfodol helpu BGCau i werthuso beth all hynny ei olygu i’w hasesiadau llesiant.
Cefndir
Cyn cyhoeddi Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021 ym mis Rhagfyr, roedd y gweithdai’n gyfle i atgyfnerthu pwysigrwydd ymgorffori ffordd o feddwl yn yr hirdymor wrth asesu llesiant lleol.
O dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rhaid i BGCau gyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd cyn dyddiad etholiad llywodraeth leol cyffredin. Rhaid iddynt gyhoeddi eu cynlluniau llesiant o fewn blwyddyn i’r etholiadau hynny.
Rhaid i’r asesiad gynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol yn y dyfodol a all effeithio ar lesiant yr ardal, a chyfeirio at Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol i sicrhau yr ystyrir anghenion hirdymor yr ardal.
Archwilio dynameg newid
Nod y gweithdai oedd darparu cyfle i BGCau drafod y tueddiadau allweddol a fydd yn cael eu cynnwys yn Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol, i ba raddau y gallai’r tueddiadau hyn fod yn berthnasol i’r rhanbarthau amrywiol yng Nghymru, a sut y gallent effeithio ar gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Rhoddwyd rhestr o dueddiadau tebygol i fynychwyr y gweithdai a gofynnwyd iddynt gwblhau matrics effaith a sicrwydd yn defnyddio’r llwyfan digidol ar gyfer cydweithio, MURAL. Gall categoreiddio’r tueddiadau fel hyn helpu i nodi pa gamau nesaf, os o gwbl, sy’n ofynnol (gweler Ffigur 1). Roedd yr ymarfer hwn, a oedd yn canolbwyntio ar y dyfodol, yn gofyn i fynychwyr ystyried beth fyddai effaith pob tuedd ar eu hardal leol a meddwl am ba mor sicr ydynt am yr effaith, a pha mor bwysig y credant y bydd yn nhermau effeithio ar lesiant. Gyda chymorth swyddogion, aeth mynychwyr o’r BGCau ati i archwilio effeithiau posibl tuedd benodol lle’r oeddent yn teimlo bod yr effaith bosibl yn bwysig ond yn ansicr. Gofynnwyd cwestiynau allweddol yn ystod y gweithdy:
- Beth allai canlyniad posibl y duedd hon fod?
- A ydych chi’n ystyried y duedd hon yn gyfle neu’n fygythiad?
- Pa gamau allwch chi eu cymryd i harneisio’r cyfle hwn neu liniaru’r bygythiad hwn?
- Gyda phwy arall y mae angen ichi ymgysylltu i’ch helpu i ddeall y mater yn well neu weithredu?

Amlinellwyd rhai egwyddorion allweddol yn ystod y gweithdy hefyd, gan gynnwys:
Croesawu a rheoli ansicrwydd
Wrth ddelio ag ansicrwydd, po fwyaf yr ydych yn meddwl am beth allai ddod o senarios gwahanol, y mwyaf o gwestiynau ac ansicrwydd yr ydych yn debygol o’u hwynebu. Mae’r dyfodol yn lle ansicr a nod meddwl am y dyfodol yw, nid dod o hyd i’r ateb ‘cywir’, ond sut mae gwneud y penderfyniadau gorau posibl drwy feddwl am yr holl bosibiliadau, a mynd at wraidd rhagdybiaethau a rhagfarnau.
Cynnwys eraill
Mae’n bwysig cynnwys pobl sydd â diddordeb yn llesiant yr ardal i ddeall effeithiau posibl tueddiadau yn well. Bydd cynnwys safbwyntiau amrywiol yn herio rhagdybiaethau sydd eisoes yn bodoli ac yn datgelu mannau dall. Dylai unrhyw un sy’n debygol o ddefnyddio allbynnau’r asesiad gyfrannu at eu datblygu os yw’n bosibl.
Symud tuag at feddwl am y dyfodol mewn modd mwy ymwybodol
Mae ‘meddwl am y dyfodol’, neu ‘gynllunio senarios’ yn rhywbeth y mae pobl yn ei wneud bob dydd – rydym yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn ei ragweld o ganlyniad. Mae’n bwysig cofio nad ydym yn wylwyr goddefol; mae gennym rôl i’w chwarae wrth lunio’r dyfodol.
Y canlyniad
Helpodd y gweithdai 90 munud o hyd i ddechrau datgelu’r tueddiadau y mae angen i BGCau feddwl amdanynt a’u monitro, a’r rhai hynny sy’n bwysig i lesiant ardal ond mae eu canlyniad yn ansicr. Helpodd y gweithdai i gryfhau dealltwriaeth am dueddiadau a nodi rhai bylchau cychwynnol mewn gwybodaeth. Gwnaethant hefyd helpu mynychwyr i ystyried rhanddeiliaid eraill i’w cynnwys wrth symud ymlaen. Yn ogystal â hyn, rhoddodd y gweithdai brofiad ymarferol i fynychwyr o ymarfer yn seiliedig ar y dyfodol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer ymarferion eraill o’r fath o fewn y BGCau.
Roedd yr ymarfer seiliedig ar y dyfodol a ddefnyddiwyd yn ystod y gweithdai wedi’i seilio ar yr offeryn ‘Driver Mapping’ sydd wedi’i gynnwys yn Futures Toolkit Llywodraeth y DU. Dim ond un o sawl offeryn gwahanol yw’r ymarfer hwn a all helpu i ymgorffori ffordd strategol o feddwl yn yr hirdymor wrth asesu llesiant lleol. Mae llawer o offerynnau seiliedig ar y dyfodol yn hyblyg, a gellir eu haddasu yn ôl yr angen. Byddem yn annog darllenwyr i archwilio rhai o’r offerynnau a’r adnoddau eraill yn seiliedig ar y dyfodol sydd ar gael:
- Tri gorwel: Pecyn cymorth i’ch helpu i feddwl a chynllunio ar gyfer y dyfodol
- A brief guide to futures thinking and foresight
- UK Government: Trends Deck Spring 2021
- Global Centre for Public Service Excellence: Foresight – The Manual
- CGGC – Adeiladu Dyfodol Gwell: Pecyn cymorth
- Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol
- Dyfodol i Gymru
- Shaping the Trends of Our Time
- Sustainable Development Goals Report
- The Global Risks Report 2021