Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021

Yn ein blog cyntaf ar Dueddiadau’r Dyfodol, buom yn trafod pam fod meddwl am y dyfodol yn bwysig wrth gynllunio a gwneud penderfyniadau, a sut y gall Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol, ynghyd ag adnoddau eraill, eich helpu i wneud hyn.

Yn y blog diweddaraf hwn rydym am ddweud mwy am strwythur yr Adroddiad a rhoi blas cychwynnol o’r themâu allweddol sy’n dod i’r amlwg yn y tueddiadau, a’r sbardunau newid fydd yn cael sylw. Dros y misoedd nesaf, cyn cyhoeddi’r adroddiad, byddwn yn rhoi disgrifiadau manylach o’r tueddiadau penodol sy’n deillio o’r themâu hyn. Drwy wneud hyn rydym yn gobeithio y gall y blog fod yn lle i drafod ac i ysgogi trafodaeth am y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu Cymru yn y dyfodol.

Strwythur yr Adroddiad

Bydd yr Adroddiad yn cael ei gyhoeddi fis Rhagfyr 2021 a bydd yn nodi’r tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol a allai effeithio ar Gymru yn y dyfodol, yn ogystal â rhai o’r ffactorau sy’n sbarduno ac yn dylanwadu ar gyfeiriad y tueddiadau hynny. Bydd yn gwneud hynny drwy ymdrin â’r rhannau ‘Tueddiadau’ a ‘Sbardunau’ yn y pyramid isod sy’n rhan o’r dulliau ehangach y byddwn yn eu defnyddio i ddeall dyfodol Cymru

Deall Dyfodol Cymru – fframwaith

Pyramid Tueddiadau’r Dyfodol

Mae tueddiadau ynbatrymau sylfaenol o newid, y gellir eu gweld yng Nghymru ar draws y pedwar maes llesiant (amgylcheddol, economaidd, diwylliannol a chymdeithasol).

Sbardunau yw’r ffactorau dylanwadol sy’n llywio cyfeiriad a chyflymder tueddiadau. Cyfeirir at y rhain yn aml felmegadueddiadau. Maent wedi hen sefydlu a gellir gweld eu heffaith ar lefel genedlaethol yng Nghymru a’r DU, yn ogystal ag yn rhyngwladol. Mae ganddynt hefyd y potensial i ddylanwadu’n uniongyrchol ar gyflawni nodau llesiant Cymru.

Y tueddiadau a’r sbardunau hyn fydd yn sail i Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021. Bydd y dystiolaeth a’r dadansoddiad sy’n gysylliedig â nhw yn rhoi sylfaen ar gyfer archwilio’r cyfleoedd a’r heriau posibl y gallai’r tueddiadau hyn eu creu wrth gyflawni nodau llesiant Cymru. Bydd yr Adroddiad hefyd yn helpu i wneud gwaith dadansoddi mwy penodol ar senarios, ac yn y pen draw yn anelu at helpu i wneud penderfyniadau sy’n ceisio sicrhau dyfodol gwell i bobl a lleoedd ledled Cymru. Bydd yr Adroddiad yn cynnwys tri adnodd, sef:

  • Pecyn tystiolaeth a fydd yn darparu’r data, y dadansoddiad lefel uchel a’r casgliadau sy’n sail i’r Adroddiad.
  • Adroddiad naratif a fydd yn rhoi crynodeb ysgrifenedig o’r sbardunau a’r tueddiadau sy’n debygol o effeithio ar gyflawni nodau llesiant Cymru, ac a fydd yn esbonio ystyr y tueddiadau’n fanylach ar gyfer Cymru.
  • Ffeithlun a fydd yn rhoi cipolwg cyffredinol ar y negeseuon allweddol sy’n deillio o’r tueddiadau y sonnir amdanynt yn yr Adroddiad.

Bydd yr Adroddiad hefyd yn cydnabod arwyddocâd y tarfu a achoswyd gan y pandemig COVID-19. Ond, oherwydd yr ansicrwydd ynghylch yr effeithiau tymor hirach, rydym yn bwriadu defnyddio diweddariad i’r Adroddiad yn y dyfodol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y gallai tueddiadau fod wedi cael eu heffeithio pan fydd tystiolaeth fwy cadarn ar gael. 

Pa dueddiadau a sbardunau allweddol sy’n cael sylw yn yr adroddiad?

Bydd yr Adroddiad yn cynnwys pedwar sbardun newid allweddol (megaduediadau) a dau faes tuedd yn y sector cyhoeddus sy’n debygol o fod yn bwysig wrth lunio llesiant Cymru yn y dyfodol.

Bydd y tueddiadau hyn yn cael eu nodi o dan bedwar megaduedd a dau duedd sector cyhoeddus a byddant yn cynnwys y tueddiadau canlynol:

Pobl a Phoblogaeth: Tueddiadau mewn patrymau demograffig gyda thwf y boblogaeth yn arafu a phoblogaeth sy’n heneiddio, mudo, galw ac angen am dai, iechyd a’r Gymraeg.

Anghydraddoldebau a Chyfleoedd: Tueddiadau mewn tlodi, anghyfartaledd incwm, bylchau cydraddoldeb, proffiliau cyflogaeth a chymwysterau a newid yn natur gwaith.

Iechyd y Blaned a Chyfyngiadau: Tueddiadau o ran newid hinsawdd a’i effeithiau, dosbarthiad risgiau hinsawdd, newid defnydd ac allyriadau, colli rhywogaethau a gwydnwch ecosystemau, sefyllfa fregus o ran bwyd a’r galw amdano, a newid yn y defnydd o drafnidiaeth a’r galw amdani.

Esblygiad Technolegol: Tueddiadau o ran twf parhaus y rhyngrwyd a digideiddio cymdeithas, gyda deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadura cwmwl, rhaniad digidol yn datblygu, effaith newid technolegol ar sgiliau, addasu cyflogaeth a busnes, a risgiau seiberddiogelwch cynyddol a materion moesegol newydd

Arian Cyhoeddus: Tueddiadau sy’n dangos amcanestyniadau ar gyfer adfer GDP, benthyca yn y sector cyhoeddus, pwysau ar gyllidebau adnoddau a thueddiadau sy’n newid yn y boblogaeth oedran gweithio a’r refeniw treth cysylltiedig

Galw’r Sector Cyhoeddus a Newid Digidol: Tueddiadau yn y galw am iechyd a gofal cymdeithasol, newid yn y gymhareb cymorth mewn henaint a galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus digidol ac addasu digidol yn y sector cyhoeddus.

Ym mhob un o’r adrannau hyn yn yr Adroddiad, bydd y pecyn tystiolaeth yn nodi tystiolaeth allweddol ar sut mae’r tueddiadau hyn yn datblygu a dadansoddiad lefel uchel ar yr hyn y gallai hyn ei olygu i Gymru. Tynnir sylw at gysylltiadau rhwng tueddiadau drwyddi draw i annog cysylltu syniadau ynghylch dyfodol posibl a’r cyfleoedd a’r heriau y gallai tueddiadau eu creu ar draws sectorau. Bydd ffynonellau data a dadansoddiadau pellach hefyd yn cael eu cynnwys ar bob tuedd fel bod modd archwilio tueddiadau penodol sydd o ddiddordeb yn fanylach.

Yn ystod y cyfnod cyn cyhoeddi’r Adroddiad ym mis Rhagfyr, byddwn yn rhannu gwybodaeth am rai o’r tueddiadau allweddol drwy gyfrwng y blog hwn. Cadwch lygad am y rheini a chysylltwch â ni ar LlunioDyfodolCymru@llyw.cymru os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer postiadau blog yn y dyfodol neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y megadueddiadau eraill.

Mae ymgynghoriad ‘Llunio Dyfodol Cymru’ yn fyw! Cliciwch yma i gael mwy o fanylion.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s