Tueddiadau Dyfodol Cymru

Os ydych wedi darllen ein blog cyntaf yng nghyfres Llunio Dyfodol Cymru, fe welwch mai Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol yw un o’r tri dull pwysig o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n ein helpu i ddeall Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Rydym yn drafftio’r adroddiad hwn i’w gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021 a byddwn yn defnyddio platfform Llunio Dyfodol Cymru i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith wrth iddo ddatblygu a bwrw goleuni ar rai o’r tueddiadau a’r sbardunau a fydd yn ymddangos yn yr adroddiad terfynol.

Pam meddwl am y dyfodol?

Nid yw meddwl am y dyfodol byth yn syml. Mae meddwl am sut mae’r byd yn debygol o edrych mewn 20 neu 30 mlynedd yn fwy anodd fyth. Y cyfan sydd angen i ni wneud yw edrych yn ôl ar rai o’r awgrymiadau a wnaethpwyd ddegawdau yn ôl ynglŷn â sut y gallai’r byd fod wedi edrych erbyn y flwyddyn 2020 i weld pa mor anodd y gall fod. Yn amlwg, nid ydym wedi gweld ceir sy’n hedfan na robotiaid yn rhedeg ein bywydau fel y gwnaeth rhai ragweld. Fodd bynnag, rydym yn gweld Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn amharu ar bron pob agwedd ar ein bywydau, gan ddarparu llawer o fanteision cymdeithasol, economaidd ac iechyd.  Ar hyn o bryd rydym hefyd yn profi newid yn ein systemau trafnidiaeth gan symud tuag at gerbydau trydan, sydd â’r potensial i newid systemau trafnidiaeth a chryfhau ein hymdrechion i ddatgarboneiddio.

Mae meddwl am y dyfodol yn golygu meddwl am ganlyniadau posibl yn y dyfodol, a’u dadansoddi, gan sylwi ar gyfleoedd a heriau posibl, a chynllunio’n effeithiol. Mae’n darparu ymchwil a thystiolaeth y gellir eu defnyddio i ddatblygu polisi cadarn, sy’n cyfrif am newidiadau a chanlyniadau posibl, ac yn eu hystyried. Gall meddwl am y dyfodol helpu i ystyried nifer o fersiynau o’r dyfodol, a chyflwyno safbwyntiau gwahanol o’u cyfuno â ffordd gydweithredol o weithio. Pan gaiff y dystiolaeth a’r dadansoddiad hwn eu bwydo i mewn i’r cylch polisi yn effeithiol, mae’n annog datblygu polisi, a all ymateb yn fwy effeithiol i newid ac ystod y newidiadau posibl.

Y ffordd orau o feddwl am y dyfodol ac ymarferion polisi rhagolwg yw pan fyddant yn cyfrif am yr ansicrwydd hwn a chanlyniadau sy’n newid. Maent hefyd yn fwyaf llwyddiannus pan fyddant yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid i gynnig gwahanol safbwyntiau ac annog meddwl am y dyfodol mewn ffordd sy’n seiliedig ar systemau. Mae meddwl am systemau yn ystyried cymhlethdod y dyfodol. Mae’n annog dull cydgysylltiedig ar draws meysydd ymchwil a pholisi sy’n canolbwyntio ar y ffordd y mae gwahanol rannau o system yn cydgysylltu a sut mae systemau mwy yn sbarduno newid mewn meysydd penodol. Mae deall y cymhlethdodau hyn yn ein symud oddi wrth ddatblygu polisi seilo traddodiadol gan ganolbwyntio ar ganlyniadau tymor byr, uniongyrchol, ac yn hytrach mae’n annog proses o feddwl yn gyfannol drwy faterion mwy cymhleth, hirdymor, rhyng-gysylltiedig.


Ffynhonnell: The Futures Toolkit, Llywodraeth y DU

Beth yw Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol?

Yng Nghymru, mae meddwl am y dyfodol yn rhan o bob maes datblygu polisi cenedlaethol a lleol drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Ddeddf wedi gosod dyletswydd mewn deddfwriaeth i gydweithio i wella ein lles amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud penderfyniadau mewn ffordd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain (egwyddor datblygu cynaliadwy). Rhan allweddol o allu gwneud hyn yn effeithiol yw ystyried y tymor hir.

Mae’r saith Nod Llesiant a nodir yn y Ddeddf yn darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer pobl, lleoedd a’r blaned, nawr ac yn y dyfodol.  Fodd bynnag, mae’r nodau llesiant hyn yn cael eu datblygu mewn amgylchedd cynyddol ansicr, cymhleth ac amwys. Mae ein gallu i ddeall cynnydd Cymru yn y dyfodol tuag at well lles yn arf allweddol i ddatblygu ymatebion polisi cadarn a theg. Mae Adroddiad Tueddiadau Dyfodol Cymru yn offeryn i gynorthwyo’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lywio’r amgylchedd cymhleth hwn, gan eu helpu i ddefnyddio tystiolaeth yn fwy effeithiol wrth feddwl am y dyfodol. Nid dyma’r unig arf sydd ar gael, fel y gwelwch o’n rhestr o ffynonellau ar waelod y dudalen, ond mae’n ceisio dwyn ynghyd ystod ehangach o dystiolaeth a dadansoddiadau o dueddiadau o dan fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

I’n helpu i feddwl am y dyfodol, mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol bob 5 mlynedd, neu 12 mis ar ôl pob etholiad yn y Senedd.

Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf yn 2017 ac mae’n nodi tueddiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol allweddol i Gymru yn y dyfodol o dan chwe thema.

Cyhoeddir yr adroddiad nesaf ym mis Rhagfyr 2021 a bydd yn adeiladu ar y themâu a drafodir yn yr adroddiad gwreiddiol, gan ystyried y ffactorau allweddol sy’n sbarduno newid, ac yn canolbwyntio ar dueddiadau allweddol penodol yn y dyfodol sy’n dod i’r amlwg o ganlyniad i’r newidiadau hyn.

Mae’n bwysig nodi bod yr adroddiad yn cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi ynghanol y cyfnod sydd wedi amharu fwyaf ar ein bywydau mewn cenhedlaeth. Mae’r pandemig ac effaith y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn achosi newidiadau sylfaenol i’n tirweddau cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae deall i ble y gallem fod yn mynd, ac ystyried posibiliadau ac ansicrwydd y dyfodol wrth wneud penderfyniadau, yn bwysicach nag erioed. Bydd Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol eleni yn arf ar gyfer ystyried pa newidiadau y gallem ddisgwyl eu gweld yn y tymor canolig i’r tymor hwy. Bydd yn asesu’r cyfleoedd a’r heriau posibl y gallai’r canlyniadau hyn yn y dyfodol eu cael ar ein gallu i gyflawni ein nodau llesiant a darparu cymdeithas gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.

Mewn blogiau yn y dyfodol, byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am yr hyn y bydd yr adroddiad yn ei gynnwys, sut y bydd yn edrych, a byddwn yn gwahodd sylwadau ar sut y gallwn sicrhau bod yr adroddiad a’r adnoddau cysylltiedig yn defnyddiol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Rydym hefyd yn ymgysylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar ein hadroddiad gan fod yn rhaid iddynt ei ystyried wrth baratoi eu hasesiadau o lesiant lleol.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am feddwl am y dyfodol, ac arfau ar gyfer gweithio gyda’r math o dystiolaeth ar gyfer y dyfodol a gyflwynir yn Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol, gall canllaw Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth y DU ar feddwl am y dyfodol a rhagolwg, a phecyn cymorth y Dyfodol ar gyfer y rheini sy’n llunio polisi ac yn dadansoddi fod yn ddefnyddiol i ddechrau arni. Mae’r pecyn cymorth yn darparu cyfres o arfau i helpu i ymgorffori meddwl strategol hirdymor yn y broses bolisi, ac mae’n trafod sut i reoli ansicrwydd a nodi camau gweithredu yn y dyfodol. Mae’n nodi gweithgareddau ymarferol y gallwch eu defnyddio i ddatblygu galluoedd y dyfodol, gan gynnwys offer ar gyfer casglu gwybodaeth a thystiolaeth am y dyfodol, archwilio deinameg newid, disgrifio sut olwg allai fod ar ddyfodol posibl, a datblygu a phrofi polisi a strategaeth gan ddefnyddio lens dyfodol.

Mae Pecyn Cymorth Tri Gorwel a ddatblygwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu canllaw gyda’r nod o helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i feddwl a chynllunio’n well ar gyfer y tymor hir. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am rôl sganio’r gorwel. 

Mae’r Llawlyfr Foresight o raglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig yn cyflwyno rhagwelediad strategol yng nghyd-destun Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030.  Mae llwyfan Deallusrwydd Strategol Fforwm Economaidd y Byd yn eich galluogi i archwilio a gwneud synnwyr o gysylltiadau rhwng gwahanol faterion a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Mae’r Arsyllfa o Becyn Cymorth Arloesi’r Sector Cyhoeddus Navigation neu’n darparu offer ar gyfer arloesi a thrawsnewid yn y sector cyhoeddus.

Ceir hefyd amrywiaeth o adroddiadau allweddol sy’n cyflwyno tystiolaeth ar y dyfodol ar lefel fyd-eang a chenedlaethol. Mae rhai adnoddau yn rhai lefel uchel allweddol sy’n rhoi man cychwyn ar gyfer ystyried tueddiadau yn y dyfodol yn cynnwys:

Os oes gennych ffynonellau gwybodaeth eraill y credwch y byddai’n ddefnyddiol i’w rhannu, nodwch yn y sylwadau isod.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s