Dangosyddion Cenedlaethol: Beth mae’r pandemig wedi ei ddysgu i ni am sut rydym yn mesur llesiant?

Mae’n amhosibl anwybyddu’r newidiadau rydym wedi’u profi yn ystod y 18 mis diwethaf a’r gwahanol bwyslais ar yr hyn sy’n cyfrannu at lesiant Cymru yn sgil y pandemig. O ganlyniad, rydym yn ceisio canfod a yw’r profiad hwn wedi tynnu sylw at unrhyw fylchau yn y ffordd rydym yn mesur cynnydd tuag at ein nodau llesiant.

Beth yw dangosyddion cenedlaethol?

Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod dangosyddion cenedlaethol i asesu’r cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant. Gyda’i gilydd, mae’r dangosyddion yn rhoi darlun clir inni o’n llwybr tuag at gyflawni’r nodau ac yn hysbysu ein penderfyniadau yng ngham nesaf y daith.

Cyhoeddwyd y dangosyddion cenedlaethol am y tro cyntaf yn 2016 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang. Rhaid i ddangosydd cenedlaethol gael ei fynegi fel gwerth y gellir ei fesur neu nodwedd y gellir ei mesur yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol. Rydym hefyd wedi sefydlu pedwar maen prawf hanfodol ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud dangosydd da.

  1. Cadw nifer y dangosyddion yn fach a hylaw fel y gallwn ganolbwyntio ein hegni ar y materion pwysicaf.
  2. Dylai’r dangosyddion fod yn berthnasol i Gymru gyfan, yn hytrach nag i sefydliad neu wasanaeth unigol. Dylent ei gwneud yn ofynnol i amryw o bartneriaid gydweithio i gyflawni’r nodau llesiant.
  3. Dylai’r dangosyddion fod yn ystyrlon ac ategu ei gilydd, gan adrodd hanes ein cynnydd tuag at Gymru sy’n ffyniannus, yn wydn, yn iachach ac yn fwy cyfartal, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu, a Chymru sy’n ymateb yn fyd-eang.
  4. Rhaid i’r dangosyddion daro tant gyda’r cyhoedd, gan gynnwys materion allweddol sy’n effeithio ar lesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Bob blwyddyn, bydd yr adroddiad ‘Llesiant Cymru’ blynyddol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd a wnaed yng Nghymru tuag at gyflawni’r saith nod llesiant, gan gyfeirio at ddangosyddion cenedlaethol ochr yn ochr â data perthnasol arall.

Pa newidiadau sydd eisoes wedi’u cynllunio ar gyfer y Dangosyddion Cenedlaethol?

Yn 2019 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad i geisio adborth ar dair blynedd gyntaf defnyddio’r dangosyddion cenedlaethol.

Roedd yr adborth a gafwyd yn dangos nad oes awydd mawr i wneud diweddariadau helaeth i’r dangosyddion, ond fe wnaethom ymrwymo i wneud rhai newidiadau, gan gynnwys:

  • Diwygio’r dangosyddion cenedlaethol yn seiliedig ar ansawdd y gwaith, gan ystyried argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg:
    • diwygio’r dangosyddion cenedlaethol yn seiliedig ar ansawdd cyflogaeth
    • dileu’r dangosydd ar fodlonrwydd mewn swydd
    • cyflwyno dangosydd ar gydfargeinio
  • Edrych ar gwestiwn newydd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ar “ddinasyddion byd-eang gweithredol” yn lle’r dangosydd ar bartneriaethau Nod Datblygu Cynaliadwy
  • Ymestyn y dangosydd gwahaniaeth cyflog i grwpiau poblogaeth eraill.

Mae effaith y pandemig COVID-19 yn golygu nad oeddem yn gallu gwneud y newidiadau hyn i’r dangosyddion y llynedd. Fodd bynnag, nid yw ein hymrwymiad i weithredu’r rhain, na’r newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud eleni wedi newid.

Beth rydym wedi’i ddysgu am lesiant yn ystod y pandemig?

Mae’n amhosibl anwybyddu’r newidiadau rydym wedi’u profi yn ystod y 18 mis diwethaf a’r gwahanol bwyslais ar yr hyn sy’n cyfrannu at lesiant Cymru yn sgil y pandemig.

O ganlyniad, rydym yn ceisio canfod a yw’r profiad hwn wedi tynnu sylw at unrhyw fylchau yn y ffordd rydym yn mesur cynnydd tuag at ein nodau llesiant. Efallai y bydd lle i wneud rhai mân newidiadau i’n fframwaith dangosyddion cenedlaethol i lenwi’r bylchau hyn.

Rydym eisoes wedi dechrau siarad gyda phobl am hyn ac wedi cael nifer o awgrymiadau am fylchau posibl fel cynhwysiant digidol, iechyd meddwl plant a theithio cynaliadwy. Fe hoffem glywed eich barn ar y cwestiynau hyn.

  • Beth sydd wedi bod yn bwysig i chi yn ystod y pandemig?
  • Sut y mae’n ein helpu i gyflawni ein nodau llesiant?
  • A yw’r testun eisoes yn rhan o’r dangosyddion cenedlaethol?
  • Os nad ydyw, beth ydych chi’n ei gredu fyddai’n gwneud dangosydd cenedlaethol da?

Fe allwch roi eich syniadau yma yn y blwch sylwadau, neu anfon unrhyw awgrymiadau i’r blwch LlunioDyfodolCymru@llyw.cymru.   

Stephanie Howarth

Prif Ystadegydd

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s