Diolch ichi am roi o’ch amser i ddysgu mwy am y Cerrig Milltir Cenedlaethol a sut y byddant yn helpu Gweinidogion i fesur cynnydd a wneir ar lefel genedlaethol tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Pwrpas y nodau hyn yw helpu i sicrhau ein bod ar lwybr cynaliadwy tuag at wneud Cymru yn wlad sy’n iachach ac yn fwy cyfartal, ffyniannus, a chydnerth, yn ogystal â bod yn wlad sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ac sydd â chymunedau cydlynus, diwylliant egnïol, ac iaith Gymraeg sy’n ffynnu.
Fel y byddwch yn gwybod o’n neges gyntaf, mae’r Cerrig Milltir yn rhan bwysig o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a basiwyd yn 2015, ochr yn ochr â’r Dangosyddion Cenedlaethol a Thueddiadau’r Dyfodol.
Rydym eisoes wedi pennu Dangosyddion Cenedlaethol fel ffordd o fesur cynnydd yn erbyn y nodau llesiant hyn, er mwyn inni allu gweld a yw pethau’n gwella yng Nghymru yn gyffredinol. Bydd y Cerrig Milltir ar gyfer Cymru yn disgrifio’r cynnydd a ddisgwylir, gan gynnwys maint a chyflymder y newidiadau y mae angen eu gweithredu, er mwyn inni allu asesu ein llwyddiant. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol o dan y Ddeddf, ac mae’n gwneud cyfraniad pwysig i’r gwaith o helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflawni’r nodau llesiant a gwireddu ar y cyd ein huchelgeisiau tymor hir ar gyfer Cymru.
Beth yw Cerrig Milltir Cenedlaethol?
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn dweud bod yn rhaid gosod Cerrig Milltir y mae Gweinidogion Cymru yn credu y byddant yn helpu i fesur hynt y gwaith o gyflawni’r nodau llesiant.
Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu erbyn pryd y mae’n rhaid cyflawni Carreg Filltir, ac a gafodd ei chyflawni.
Yn yr ystyr ehangach, mae hynny’n golygu bod yn rhaid inni osod cyfres o fesurau i’w rhoi ar waith yn erbyn y Dangosyddion Cenedlaethol, er mwyn inni allu gweld eu bod yn symud i’r cyfeiriad iawn, ac felly yn ein symud ninnau fel cenedl tuag at gyflawni’r nodau llesiant. Yn wahanol i dargedau a strategaethau Llywodraeth Cymru, ar gyfer Cymru fel gwlad y mae’r Cerrig Milltir Cenedlaethol, yn hytrach nag ar gyfer y Llywodraeth yn unig, ac maent yn cynnwys pob un o’r 44 o gyrff cyhoeddus. Mae’r Cerrig Milltir yn adnodd cydweithredu sy’n ein galluogi i symud ymlaen â’r weledigaeth a’r uchelgais a rennir ar gyfer Cymru a chenedlaethau’r dyfodol.
Gallai Carreg Filltir Genedlaethol fod yn darged penodol, neu gallai fod yn ystod o dargedau, neu’n ddull arall o’n helpu i weld ein bod ar y trywydd iawn.
Yn 2019, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y meini prawf y mae’n rhaid i’r Cerrig Milltir Cenedlaethol eu bodloni, a chytunwyd y byddai’n rhaid iddynt fodloni’r meini prawf isod:
- Dylent fod yn fach o ran eu nifer er mwyn inni allu canolbwyntio ein hegni
- Dylai fod yn bosibl i’r Llywodraeth ddatganoledig ddylanwadu’n sylweddol arnynt
- Bydd cyflawni’r Garreg Filltir yn galluogi cynnydd mewn ystod o wahanol feysydd
- Bydd cyflawni’r Garreg Filltir yn cael effaith ar draws y cenedlaethau drwy atal canlyniadau gwael a fyddai’n effeithio wedyn ar genedlaethau’r dyfodol
- Bydd yn gofyn am weithredu gan nifer o bartneriaid.
Rydym hefyd wedi mireinio’r gyfres fach o 16 o ddangosyddion y bydd y Cerrig Milltir yn cael eu gosod yn eu herbyn, yn seiliedig ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2019, a’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu o’n profiadau yn ystod y pandemig COVID yn y cyfnod ers hynny.
Y camau nesaf
Rydym yn bwriadu defnyddio dull gweithredu’n seiliedig ar ddwy don ar gyfer gosod y Cerrig Milltir Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod y dangosyddion a’r data ategol mor briodol â phosibl cyn pennu targed.

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyrff cyhoeddus, a phartïon â buddiant i ddatblygu’r don gyntaf o Gerrig Milltir. Dyma’r 8 Cerrig Filltir o’r gyfres fach o ddangosyddion a ategir gan y data cadarn sy’n caniatáu inni bennu gwerth Carreg Filltir yn 2021. (Gweler tabl 1) Caiff yr 8 dilynol wedyn eu pennu yn 2022, ar ôl gwneud rhagor o waith ar y Dangosyddion cyfatebol a’r ffynonellau data perthnasol.
Dangosydd Cenedlaethol 5 Canran y plant sy’n dilyn llai na dau ymddygiad iach o ran ffordd o fyw |
Dangosydd Cenedlaethol 8 Canran yr oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol |
Dangosydd Cenedlaethol 14 Ôl troed ecolegol Cymru |
Dangosydd Cenedlaethol 17 Cyflogau cyfartal – y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau |
Dangosydd Cenedlaethol 21 Canran y bobl sydd mewn gwaith |
Dangosydd Cenedlaethol 22 Canran y bobl mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant |
Dangosydd Cenedlaethol 37 Canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg |
Dangosydd Cenedlaethol 41 Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru |
Rydym yn awyddus i weithio ar y cyd i gynhyrchu Cerrig Milltir Cenedlaethol ystyrlon o ansawdd da, ac sy’n hawdd eu deall, gan adlewyrchu lleisiau niferus amrywiaeth poblogaeth Cymru, ac sy’n manteisio ar y cyfleoedd pwysig a ddaw o weithio gyda’n gilydd.
Er mwyn gwneud hynny, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu yn ystod y misoedd nesaf er mwyn cael barn a sylwadau ar y syniadau presennol a chyfeiriad y gwaith o ddatblygu’r Cerrig Milltir Cenedlaethol.
E-bost: ShapingWalesFuture@gov.wales / LlunioDyfodolCymru@llyw.cymru