Cyflwyniad i Flog Llunio Dyfodol Cymru

Croeso i’r blog. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o negeseuon gan Lywodraeth Cymru ynghylch rhai o’r camau rydyn ni’n eu cymryd i wella llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru a sut y gallwch chi fod yn rhan o hyn.

Amcan y blog yw rhannu gyda chi’r gwaith rydyn ni’n ei wneud ar ddatblygu Cerrig Milltir Cenedlaethol, diweddaru dangosyddion Cenedlaethol a datblygu Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol. Mae’r rhain yn dair rhan bwysig o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sy’n rhoi gwybod inni am y cynnydd rydyn ni’n ei wneud tuag at gyrraedd ein nodau llesiant ac am unrhyw heriau y byddwn efallai’n dod ar eu traws ar ein taith.

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gyfarwydd iawn â’r pynciau hyn eisoes – byddwn yn esbonio rhagor amdanynt mewn negeseuon yn y dyfodol. Neu gallech fwrw golwg dros ein tudalen ’Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol  a’r ’Arweiniad i’r Hanfodion, sy’n fan cychwyn da.

Ym mis Chwefror 2021, cyflwynodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ar y pryd y gwaith hwn ar gerrig milltir, dangosyddion a thueddiadau mewn Datganiad ysgrifenedig. Dywedodd:

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod ansicr a heriol na welwyd mo’i debyg o’r blaen, gan effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Er bod her y pandemig yn parhau, mae’n bwysig ein bod yn dechrau gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Yn benodol, rhaid inni barhau i weithredu’n hirdymor ac ar sail tystiolaeth wrth arwain Cymru allan o’r pandemig.  .

Un o’r elfennau allweddol i lunio dyfodol Cymru yw sut y byddwn yn mesur cynnydd Cymru drwy ein dangosyddion llesiant cenedlaethol, yn llywio trywydd y dyfodol drwy osod cerrig milltir cenedlaethol, ac yn deall beth allai lywio dyfodol Cymru drwy Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol ar gyfer Cymru.

Cymryd Rhan

Yn ystod 2021 byddwn yn gosod cerrig milltir cenedlaethol am y tro cyntaf, yn ogystal ag edrych o’r newydd ar ein Dangosyddion Cenedlaethol i weld a yw’r pandemig wedi dod ag unrhyw fylchau i’r amlwg. Byddwn hefyd yn llunio Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol mwy diweddar sy’n nodi’r tueddiadau tebygol yn y dyfodol o ran lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae’n bwysig ein bod yn tynnu ar farn a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth inni fynd ati i wneud y gwaith hwn. Mae’r blog hwn yn un o’r ffyrdd y bwriadwn wneud hynny. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhannu cyfres o negeseuon yn canolbwyntio ar gerrig milltir, dangosyddion a thueddiadau. Rydyn ni hefyd yn trefnu cyfraniadau gwadd o’r tu allan i Lywodraeth Cymru, i rannu barn ynghylch y ffactorau a thueddiadau allweddol sy’n cael effaith ar Gymru. 

Gobeithiwn y byddwch yn achub ar y cyfle i ddarllen ac i ymddiddori yn y blog hwn, ac rydyn ni’n awyddus i glywed beth rydych yn ei feddwl yn yr adran sylwadau. Rydyn ni’n wastad yn croesawu cyfle i drafod yn fwy manwl, os byddai hynny’n well gennych. Cysylltwch â ni.

Yn ogystal â negeseuon sydd ar y gweill, byddwn yn cynnal sesiynau ymgysylltu dros y misoedd nesaf. Os hoffech chi gymryd rhan, rhowch wybod i ni.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu ein cynnydd â chi ac at weithio gyda’n gilydd i lywio dyfodol Cymru.

E-bost: LlunioDyfodolCymru@llyw.cymru

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s