Llesiant Cymru 2025: Degawd o Gynnydd a Myfyrdod

Cyswllt i’r adroddiad: Cymraeg         English

Mae’r flwyddyn hon yn nodi cerrig milltir sylweddol yng ngwentethau Cymru tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a chyfiawn. Mae’n ddeg mlynedd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod i rym, darn o ddeddfwriaeth sy’n arwain y byd a sy’n dal i ddylanwadu ar sut rydym yn mesur ac yn gwella lles cenedlaethol.

Mae adroddiad Llesiant Cymru 2025 yn adeiladu ar y sylfaen hon, gan ddarparu trosolwg cynhwysfawr o’r cynnydd tuag at y saith nod llesiant. Mae’r adroddiad yn uno’r dystiolaeth ddiweddaraf ar draws amrywiaeth eang o bynciau, o iechyd ac addysg i’r amgylchedd a’r economi, gan ein helpu i ddeall lle rydym yn gwneud cynnydd a ble mae angen mwy o ymdrech.

Beth sydd newydd eleni?

Rydym wedi gwneud newidiadau i fformat yr adroddiad er mwyn ei wneud yn fwy cryno ac yn hygyrch, yn seiliedig ar adborth gan ddarllenwyr a data defnydd. Rydym hefyd wedi ehangu’r cwmpas mewn rhai meysydd, gan gynnwys adrodd am yr dangosydd cenedlaethol cyfiawnder am y tro cyntaf, a ychwanegwyd at set y dangosyddion yn 2021.

Yn edrych ymlaen, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno y dylid adolygu’r dangosyddion lles cenedlaethol unwaith bob cyfnod Senedd. Mae hyn yn golygu ein bod yn disgwyl dechrau adolygiad ar ôl etholiad nesaf y Senedd yn 2026. Gobeithiwn y byddwch yn cymryd rhan wrth siapio cam nesaf y gwaith pwysig hwn.

Pan mae ein hymchwil ar ddeuawd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r adroddiad hwn yn cynnig cyfle prydlon i gymryd stoc, gan ddathlu cynnydd, cydnabod heriau, a diweddaru ein hymrwymiad i wella bywydau cenedlaethau presennol a’r dyfodol yng Nghymru.

Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • Mae perfformiad economaidd wedi bod yn gymysg, gyda rhai arwyddion o adferiad ond heriau’n parhau mewn sectorau cyflog is
  • Mae tlodi incwm wedi gostwng dros yr hirdymor, ac mae plant yn parhau i fod yn fwy tebygol o gael eu heffeithio
  • Mae lefelau cymwysterau yn codi. Mae mwy o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • Mae ansawdd aer a dŵr wedi gwella, ond mae bioamrywiaeth a’r defnydd o adnoddau yn parhau i gyflwyno heriau
  • Mae canlyniadau iechyd yn gymysg, gyda disgwyliad oes iach yn gostwng ac anghydraddoldebau parhaus
  • Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau, er bod gwahaniaethau eraill (fel y rhai sy’n gysylltiedig ag ethnigrwydd ac anabledd) heb newid
  • Mae lefelau gwirfoddoli wedi cynyddu, ond mae digartrefedd a phryder y cyhoedd am droseddu hefyd wedi cynyddu
  • Mae ymgysylltiad oedolion â’r celfyddydau a diwylliant yn parhau i fod yn sefydlog, tra bod cyfranogiad ymhlith plant wedi gostwng
  • Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn parhau i ostwng, er bod ôl troed ecolegol Cymru yn parhau i fod yn anghynaliadwy
  • Cynnydd ar gerrig milltir cenedlaethol

Cynnydd ar garreg filltir genedlaethol

Mae’r adroddiad hefyd yn olrhain cynnydd tuag at y cerrig milltir cenedlaethol. O’r 20 asesiad a wnaed ar draws y 17 garreg filltir, roedd hanner wedi gwella ers 2015.

Fodd bynnag, bydd angen cyflymu’r newid mewn rhai meysydd i gyrraedd targedau 2050.

Sut Byddwch Chi’n Defnyddio’r Blog hwn i Gyfathrebu am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Sut mae? A ninnau’n nodi deng mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gobeithio bod hwn wedi bod yn gyfnod llwyddiannus ichi gyda digon o gyfle i ddysgu.

Dyma’r tro cyntaf inni bostio ar y blog hwn ers tro ac rydym yn falch o fod nôl. Cofiwch gadw golwg am ddiweddariadau yn y dyfodol ar Adroddiad Llesiant Cymru 2025 ac ar Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol.

Yma, yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi bod yn defnyddio’r cyfle hwn i wella’r ffordd rydym yn cyfathrebu am y Ddeddf. Rydym wedi datblygu cynllun cyfathrebu mewnol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n cael ei rannu rhwng sawl tîm. Bydd y cynllun hwn o gymorth wrth inni ddiweddaru ein Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus (CLIP 2026-29).

Defnyddio’r Ddeddf i fanteisio ar bob cyfle i ail-ymgysylltu, cyfareddu ac i adfer ein hegni ni ein hunain i wneud ein gwaith mewn ffordd fwy cynaliadwy yw prif nod y cynllun. Rydym wedi bod yn edrych ar y Ddeddf gyda llygaid ffres i ddatblygu (ymhellach) ein dealltwriaeth o’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy a’r Pum Ffordd o Weithio a’r ffordd rydym yn eu cymhwyso.

Gan weithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac eraill, rydym wedi creu adnoddau newydd rydym yn awyddus i’w rhannu. Rydym yn gobeithio y byddwch chithau hefyd yn defnyddio’r rhain ac yn eu rhannu ag eraill. Byddem wrth ein boddau pe baech chi’n rhannu adborth ac yn cydweithio â ni ar sut fyddai orau i’w defnyddio.

Mae rhai adnoddau a chyfleoedd gwych ar gael yn barod. Rydym wedi bod yn edrych o’r newydd ar rai o’r rhain gan rannu ein profiadau â’n cydweithwyr.

Pa adnoddau newydd sydd i’w cael?

Mae’r holl adnoddau a chyfleoedd uchod yn cyfuno i greu cyfres gadarn rydym yn tynnu arni yn ein swyddi o ddydd i ddydd a’n gyrfaoedd, ac wrth inni wirfoddoli ac ymgymryd â rolau eraill. Gall unigolion eu defnyddio neu gellid eu defnyddio hefyd ymysg timau, sefydliadau a chymunedau ym mhob cwr o Gymru.

Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn defnyddio system syml o wahodd arweinwyr a thimau prosiect i ymgysylltu ag un o’r eitemau uchod ac i gyfarfod i siarad amdano â’i gilydd.

…ond dydyn ni ddim am orffen fan hyn. Unwaith eto mewn cydweithrediad ag eraill, gwyliwch y gofod hwn am wefannau newydd am yr arferion sy’n sail i’r Ddeddf. I ddod yn fuan!

Adroddiad Llesiant Cymru 2024

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol Llesiant Cymru ar 26 Medi 2024. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am lesiant yng Nghymru i’n helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd o ran y saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn ystyried cynnydd o ran y 50 dangosydd cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill. Mae’r adroddiad yn fecanwaith atebolrwydd allweddol, i fod yn dryloyw ynghylch y cynnydd mae Cymru’n ei wneud tuag at ei nodau llesiant.

Yn yr un modd â 2023, mae adroddiad hawdd ei ddeall wedi cael ei gyhoeddi yn ogystal â’r prif adroddiad i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar wybodaeth ystadegol am Gymru.

Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar wahân ar ethnigrwydd a llesiant, ochr yn ochr â phrif adroddiad Llesiant Cymru, yn dilyn adroddiad ar blant a llesiant y flwyddyn flaenorol. Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu adroddiadau atodol ochr yn ochr â’r prif adroddiad lle mae angen amlwg gan ddefnyddwyr i wneud hynny. Fodd bynnag, eleni gwnaethom ganolbwyntio ar ffyrdd eraill o wella sut rydym yn cyfathrebu cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Ffordd newydd o gyfathrebu cynnydd

Wrth i ni nesáu at 10 mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym ni wedi ystyried sut y gallwn ni barhau i ddarparu gwybodaeth newydd a ffyrdd gwell o gyfathrebu cynnydd tuag at y nodau llesiant. Gan adeiladu ar adborth gan ddefnyddwyr, eleni rydym ni’n arbrofi gyda ffordd newydd o ddangos cynnydd, gan ganolbwyntio ar yr 17 carreg filltir genedlaethol. Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Rydym ni wedi edrych ar y data ar gyfer pob carreg filltir ers 2015, sef pan ddaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i rym, ac wedi asesu a yw’r duedd wedi bod yn gwella ai peidio ers y dyddiad hwnnw.

Mae sawl rhan i rai o’r 17 o gerrig milltir, felly fe wnaethom ni asesu cyfanswm o 21 cynnydd i gyd. Roedd deg o’r rhain wedi gwella ers 2015, sy’n awgrymu bod Cymru’n mynd i’r cyfeiriad cywir tuag at y garreg filltir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, er y gallai’r duedd fod yn symud i’r cyfeiriad cywir, bydd angen i ni symud yn gyflymach i gyrraedd y targed erbyn 2050. Roedd pum carreg filltir wedi dirywio, nid oedd pump wedi newid fawr ddim, neu o gwbl, ac nid oedd modd asesu cynnydd un garreg filltir gan mai dim ond blwyddyn o ddata oedd ar gael. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y cerrig milltir yn parhau i ddilyn y tuedd tymor hirach a sefydlwyd cyn 2015.

Gallwch chi ddarllen mwy am y dull gweithredu rydym ni wedi’i fabwysiadu yn y bennod gerrig milltir cenedlaethol adroddiad Llesiant Cymru. Gan fod hon yn ffordd newydd o gyflwyno’r wybodaeth hon, rydym ni’n awyddus i glywed eich adborth ynghylch a yw hyn yn eich helpu i ddeall y cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Anfonwch eich adborth i ProsiectauBlaenoriaethUchel.Ystadegau@llyw.cymru.

Mae’r dudalen Llesiant Cymru yn cynnwys dolenni i bob adroddiad Llesiant Cymru blaenorol, yn ogystal â data a ddefnyddir yn yr adroddiadau, gwybodaeth am ansawdd, a dangosyddion cenedlaethol.

Rhagargoeli ar gyfer llywodraethu datblygu cynaliadwy a llesiant yng Nghymru

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn arwain y ffordd yn fyd eang o ran deddfu ar gyfer datblygu cynaliadwy a chodeiddio meddwl yn hirdymor fel ymddygiad cynaliadwy o fewn cyfraith Cymru. Mae’r fframwaith cyfreithiol yn galluogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i lywio, fframio a herio’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar gyfer dinasyddion yng Nghymru heddiw gyda’r nod o helpu i sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn dilyn prosiect ymchwil blwyddyn o hyd sy’n ymchwilio i’r defnydd o arferion dyfodoleg a rhagargoeli ar draws Llywodraeth Cymru, mae’r Is-adran Dyfodol Cynaliadwy yn falch o gyhoeddi adroddiad Dr Laura De Vito, Rhagargoeli ar gyfer llywodraethu datblygu cynaliadwy a llesiant yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn cynnwys canlyniadau cyfres o brosiectau peilot sydd wedi’u cynllunio i wella gallu dyfodoleg a rhagargoeli yn Llywodraeth Cymru, ymatebion manwl gan swyddogion sy’n gweithio mewn sawl llywodraeth genedlaethol arall a set o argymhellion sydd â’r nod o ddatblygu a gwreiddio arferion dyfodoleg a rhagargoeli yng Nghymru ymhellach. Cefnogwyd y gwaith hwn gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

I’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â dyfodoleg a rhagargoeli, mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg defnyddiol iawn o wahanol arferion, technegau a chyfleoedd ar gyfer dysgu pellach.

Fel y dywedodd Dr De Vito:

‘Mae rhagargoeli yn gwella llywodraethu datblygu cynaliadwy a llesiant drwy integreiddio safbwyntiau hirdymor a chefnogi llunwyr polisïau i gydnabod ansicrwydd ac ymdrin ag o, a deall canlyniadau hirdymor eu penderfyniadau.’

‘Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llwyfan trawsnewidiol y gall Llywodraeth Cymru adeiladu arno. O dan y fframwaith deddfwriaethol hwn, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i fynd i’r afael â bylchau llythrennedd presennol mewn dyfodoleg, datgloi mecanweithiau i oresgyn rhwystrau, ac ymgorffori dulliau hirdymor o feddwl yn sector cyhoeddus Cymru.’

Ariannwyd y prosiect ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac fe’i gyhnaliwyd ar y cyd â Phrifysgol Gorllewin Lloegr, lle mae Dr De Vito yn Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Adnoddau Rheoli Ansawdd Aer.

Mae egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sicrhau bod meddwl hirdymor yn ganolog i’n gwaith. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus rhestredig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ystyried effaith hirdymor ein penderfyniadau. Mae ymchwil Dr De Vito yn dangos pwysigrwydd cysylltiad da rhwng arferion rhagargoeli a gwneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae’r ymchwil hon yn rhoi cipolwg heb ei ail i ni i’n helpu i symud ymlaen â’n gwaith dyfodoleg a rhagargoeli yma yn Llywodraeth Cymru. Gyda’r fframwaith a ddarperir gan y Ddeddf a chanfyddiadau’r ymchwil hon, rydym mewn sefyllfa unigryw i adeiladu ar argymhellion yr adroddiad i sicrhau bod gwaith parhaus yn cael ei anelu at y tymor hir.

I ddod yn fuan: Adroddiad Llesiant Cymru 2023

Disgwylir i’r adroddiad blynyddol ar Lesiant Cymru gael ei gyhoeddi ar 28 Medi eleni. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am lesiant yng Nghymru i’n helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd o ran y saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn ystyried cynnydd o ran y 50 dangosydd cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill. Mae’r adroddiad yn fecanwaith atebolrwydd allweddol, i fod yn dryloyw ynghylch y cynnydd mae Cymru’n ei wneud tuag at ei nodau llesiant.

Yn yr un modd â 2022, bydd adroddiad hawdd ei ddarllen yn cael ei gyhoeddi yn ogystal â’r prif adroddiad i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar wybodaeth ystadegol am Gymru.

Adroddiad atodol ar Ethnigrwydd a llesiant

Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu adroddiadau atodol ochr yn ochr â’r prif adroddiad lle mae angen gwneud hynny. Eleni byddwn yn cyhoeddi adroddiad atodol ochr yn ochr ag adroddiad Llesiant Cymru sy’n canolbwyntio ar ethnigrwydd a llesiant.

Drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, roedd argaeledd data a thystiolaeth yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro. Ar draws Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n edrych ar sut gallwn ni wella’r sylfaen dystiolaeth ar ethnigrwydd, ac mae adroddiad Llesiant Cymru yn rhan o hyn. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dadansoddi’r holl ddangosyddion cenedlaethol yn ôl grŵp ethnig, ond mae mwy y gallwn ei wneud ar hyn o bryd i adrodd y stori’n well am y cynnydd tuag at fod yn Gymru fwy cyfartal. Nod yr adroddiad atodol yw dwyn ynghyd y dystiolaeth bresennol er mwyn archwilio cynnydd tuag at y nodau llesiant ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig. Ochr yn ochr â mathau eraill o dystiolaeth, gellir defnyddio hyn i helpu i lywio penderfyniadau er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal.

Beth arall sy’n newydd yn adroddiad eleni?

Cafodd y don gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol eu gosod ym mis Rhagfyr 2021, a’r llynedd roedd adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys adrodd ar y cerrig milltir hyn am y tro cyntaf. Mae cerrig milltir cenedlaethol yn helpu i fesur cyflymder y newid sydd ei angen i gyflawni’r nodau llesiant. Cafodd yr ail don o gerrig milltir cenedlaethol eu gosod ym mis Tachwedd 2022 a byddwn yn adrodd ar y set gyflawn o gerrig milltir cenedlaethol am y tro cyntaf eleni.

Cafodd y gyfres o allbynnau sy’n cynnwys adroddiad Llesiant Cymru a’r dangosfwrdd Dangosyddion Cenedlaethol eu hasesu gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Rhoddwyd statws Ystadegau Gwladol iddynt y llynedd, sy’n golygu eu bod wedi cael eu hasesu’n annibynnol fel rhai sy’n cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau eleni ar sail adborth gan yr OSR fel rhan o’u hasesiad o’r adroddiad hwn. Rydym wedi ceisio gwella sut rydym yn cyfleu unrhyw ansicrwydd yn y data drwy roi newidiadau tymor byr yng nghyd-destun tueddiadau hirdymor. Pan fyddwn yn defnyddio data arolwg, rydym hefyd wedi gwneud sylwadau ynghylch a yw’r newidiadau hyn yn “ystadegol arwyddocaol”, sy’n golygu eu bod yn annhebygol o fod wedi digwydd ar hap. Rydym hefyd yn datblygu fframwaith sy’n nodi sut rydym yn penderfynu pa fathau o ffynonellau data i’w defnyddio yn yr adroddiad hwn ac i fesur y dangosyddion cenedlaethol, a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn rhyddhau’r flwyddyn nesaf.

Mae’r dudalen Llesiant Cymru yn cynnwys dolenni i bob adroddiad Llesiant Cymru blaenorol, yn ogystal â data a ddefnyddir yn yr adroddiadau, gwybodaeth am ansawdd, a dangosyddion cenedlaethol. Dewch yn ôl ar 28 Medi i weld ein hasesiad “cyflwr y genedl” ar gyfer 2023.

Cyhoeddi adroddiad ‘Llesiant Cymru’

Ar 29 Medi, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ‘Llesiant Cymru’, ynghyd ag adroddiad ar wahân ynghylch llesiant plant a phobl ifanc. Cafodd fersiynau hawdd eu deall o’r ddau adroddiad eu cyhoeddi yn ogystal. Eleni, rhoddwyd statws Ystadegau Gwladol i’r gyfres o allbynnau sy’n cwmpasu adroddiad ‘Llesiant Cymru’ a’r dangosfwrdd o Ddangosyddion Cenedlaethol. Mae hyn yn golygu ei bod, yn ôl asesiad annibynnol, yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd, a gwerth.

Sut rydych chi’n defnyddio adroddiad ‘Llesiant Cymru’?

Ar hyn o bryd, rydym yn deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio i ryw raddau, ond rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r adroddiad, ac o wneud yr wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi yn fwy hygyrch ac addas i gynulleidfa eang. Mae deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio yn allweddol yn y cyswllt hwn.

I gasglu eich barn am y modd rydych chi’n defnyddio’r adroddiad llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol, a sut y gellir eu gwella, rydym wedi creu ffurflen arolwg lle y gallwch nodi eich sylwadau a’ch awgrymiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech ymateb erbyn 21 Tach 2022.

Diolch am roi o’ch amser i rannu eich barn, ac edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Edrych tuag at adroddiad Llesiant Cymru eleni

Caiff adroddiad blynyddol Llesiant Cymru ei gyhoeddi ar 29 Medi eleni. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar lesiant yng Nghymru i’n helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol a bennir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn edrych ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y 50 o ddangosyddion cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill.

Fel yn 2021, caiff adroddiad hawdd ei ddeall ei gyhoeddi yn ogystal â’r prif adroddiad i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gwybodaeth ystadegol am Gymru.

Yn 2018, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar wahân ar lesiant plant, ynghyd â phrif adroddiad Llesiant Cymru. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o lesiant plant yn seiliedig ar Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, yn ogystal â defnyddio Astudiaeth Cohort y Mileniwm a ffynonellau eraill megis data ar blant mewn aelwydydd heb waith o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Rydym wedi derbyn adborth bod bwlch yn y data am blant, felly eleni byddwn yn llunio adroddiad wedi’i ddiweddaru ar lesiant plant a phobl ifanc ochr yn ochr â’r prif adroddiad.

Beth arall sy’n newydd yn yr adroddiad eleni?

Eleni fydd y flwyddyn gyntaf y bydd adroddiad Llesiant Cymru yn adrodd ar y cerrig milltir cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir cenedlaethol yn helpu i fesur cyflymder y newid sydd ei angen i gyrraedd y nodau llesiant. Pennwyd y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021, ac fe adroddir arnynt yn adroddiad Llesiant Cymru eleni lle bo data ar gael. Mae ail gyfres y cerrig milltir cenedlaethol yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a disgwylir iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd ym mis Hydref 2022.

Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaethom hefyd osod set o ddangosyddion cenedlaethol wedi’u diweddaru. Byddwn yn adrodd ar rai o’r dangosyddion newydd hyn am y tro cyntaf eleni. Maent yn cynnwys:

  • Canran y bobl mewn swyddi, sydd â chontractau parhaol (neu sydd â chontract dros dro, heb fod yn chwilio am swydd barhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol
  • Gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau, pobl anabl a phobl o wahanol ethnigrwydd
  • Cyfran y gweithwyr y caiff eu cyflog ei bennu drwy gydfargeinio
  • Dinasyddiaeth fyd-eang weithgar yng Nghymru
  • Canran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y blog hwn pan gaiff yr adroddiad ei gyhoeddi, a byddwn yn gofyn am eich adborth ar sut y gallwn barhau i’w wella.

Mapio’r dangosyddion cenedlaethol i’r nodau llesiant

Mewn neges ar y blog ym mis Ionawr, gofynnwyd am eich barn ar y ffordd y caiff y dangosyddion cenedlaethol presennol eu mapio yn erbyn y saith nod llesiant. Cafodd pob dangosydd ei fapio i un neu fwy o’r nodau llesiant pan cafodd y dangosyddion eu pennu’n wreiddiol. Mae hyn yn helpu i ddangos sut y mae pob dangosydd yn cyfrannu tuag at gyflawni nodau llesiant Cymru.

Diolch i bawb a ymatebodd i’r arolwg. Ar sail eich adborth, yn ogystal â thrafodaeth gyda grŵp bach o bobl o Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill â buddiant, penderfynom wneud rhai newidiadau. Fe wnaethom fapio dangosyddion i nodau ychwanegol lle teimlwyd bod cysylltiad amlwg rhwng cyflawni’r nod a’r eitem y mae’r dangosydd yn ei fesur, a chawsom wared arnynt lle roedd y cysylltiad hwnnw nawr yn llai eglur.

Ar y cyfan, dim ond nifer bach o newidiadau a wnaethom, sy’n dangos bod y cysylltiad gwreiddiol rhwng nodau a dangosyddion yn dal i fod yn berthnasol. Cafodd y rhan fwyaf o’r newidiadau eu gwneud i’r nod ‘bod yn gyfrifol yn fyd-eang’, lle gofynnom i ni ein hunan “a yw newid y dangosydd hwn yn cael effaith y tu allan i Gymru?”.

Rhif y Dangosydd  Enw’r DangosyddNewid i’r Nodau
5Canran y plant sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iachYchwanegu:
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu  
6Mesur o ddatblygiad plant bachYchwanegu:
Cymru iachach
11Y ganran o’r busnesau sydd wrthi’n arloesiGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
16Canran y bobl sydd mewn gwaith, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddolGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
18Y ganran o’r bobl sy’n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU, wedi’i fesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwnGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
19Y ganran o’r bobl sy’n byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materolGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
23Y ganran sy’n teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leolYchwanegu:
Cymru lewyrchus
Cymru gydnerth
Cymru iachach Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Gwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
28Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoliYchwanegu:
Cymru lewyrchus
Cymru gydnerth
Cymru iachach
Cymru sy’n fwy cyfartal  

Gwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
47Canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnderGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
48Canran y teithiau a wneir drwy gerdded, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddusGwaredu:
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cerrig Milltir Cenedlaethol – dweud eich dweud!

Ar 21 Mehefin 2021, lansiodd y Llywodraeth Cymru ymgynghoriad deuddeg wythnos ‘Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (cam dau).

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar osod cerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn cynorthwyo Gweinidogion i asesu cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio barn a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth i ni wneud y gwaith hwn ac rydym yn eich gwahodd i gyfrannu. Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y cynigion. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 12 Medi felly mae gennych ddigon o amser i ymateb a rhannu eich barn ac fe hoffem glywed safbwyntiau cymaint o bobl â phosibl ar y cynigion.

Byddem hefyd yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith hwn drwy unrhyw gylchlythyrau neu rwydweithiau sydd gennych. Os oes gennych unrhyw ddigwyddiadau ymgysylltu eich hun ac yr hoffech i ni ddod draw i sôn am y gwaith hwn, rhowch wybod inni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol, gan fynd i’r afael â’r heriau digynsail sy’n ein hwynebu. Trwy ein Rhaglen Lywodraethu rydym yn canolbwyntio ar y ffyrdd y gallwn wella bywydau pobl yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych ac at gydweithio i lunio dyfodol Cymru.

Ymestyn dyletswydd llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad sy’n ceisio barn ar ymestyn y ddyletswydd llesiant yn Rhan 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’r cyrff cyhoeddus a enwir. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar y cyfleoedd i gyrff cyhoeddus nad yw’r

Ddeddf yn berthnasol iddynt. Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 14 Gorffennaf a 20 Hydref 2022.

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i lansio’r ymgynghoriad.

Mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar farn a phrofiadau sefydliadau a phobl ar draws Cymru wrth inni wneud y gwaith hwn, ac felly rydym yn eich gwahodd i gyfrannu.

Mae ymgynghoriad ‘Llunio Dyfodol Cymru’ yn fyw!

Heddiw rydym wedi cyhoeddi’r ymgynghoriad ar ‘Llunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (cam dau).

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar osod cerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn cynorthwyo Gweinidogion i asesu cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored o 21 Mehefin i 12 Medi  2022 ac yn ystod y cyfnod hynny byddwn yn ymgymryd â rhaglen ymgysylltu i godi proffil y gwaith pwysig hwn a cheisio barn ehangach.

Mae’r Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i lansio’r ymgynghoriad.

Mae’n bwysig ein bod yn defnyddio barn a phrofiadau pobl ledled Cymru wrth i ni wneud y gwaith hwn ac rydym yn eich gwahodd i gyfrannu!