I ddod yn fuan: Adroddiad Llesiant Cymru 2023

Disgwylir i’r adroddiad blynyddol ar Lesiant Cymru gael ei gyhoeddi ar 28 Medi eleni. Bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am lesiant yng Nghymru i’n helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd o ran y saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn ystyried cynnydd o ran y 50 dangosydd cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill. Mae’r adroddiad yn fecanwaith atebolrwydd allweddol, i fod yn dryloyw ynghylch y cynnydd mae Cymru’n ei wneud tuag at ei nodau llesiant.

Yn yr un modd â 2022, bydd adroddiad hawdd ei ddarllen yn cael ei gyhoeddi yn ogystal â’r prif adroddiad i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar wybodaeth ystadegol am Gymru.

Adroddiad atodol ar Ethnigrwydd a llesiant

Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu adroddiadau atodol ochr yn ochr â’r prif adroddiad lle mae angen gwneud hynny. Eleni byddwn yn cyhoeddi adroddiad atodol ochr yn ochr ag adroddiad Llesiant Cymru sy’n canolbwyntio ar ethnigrwydd a llesiant.

Drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, roedd argaeledd data a thystiolaeth yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro. Ar draws Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n edrych ar sut gallwn ni wella’r sylfaen dystiolaeth ar ethnigrwydd, ac mae adroddiad Llesiant Cymru yn rhan o hyn. Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dadansoddi’r holl ddangosyddion cenedlaethol yn ôl grŵp ethnig, ond mae mwy y gallwn ei wneud ar hyn o bryd i adrodd y stori’n well am y cynnydd tuag at fod yn Gymru fwy cyfartal. Nod yr adroddiad atodol yw dwyn ynghyd y dystiolaeth bresennol er mwyn archwilio cynnydd tuag at y nodau llesiant ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig. Ochr yn ochr â mathau eraill o dystiolaeth, gellir defnyddio hyn i helpu i lywio penderfyniadau er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal.

Beth arall sy’n newydd yn adroddiad eleni?

Cafodd y don gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol eu gosod ym mis Rhagfyr 2021, a’r llynedd roedd adroddiad Llesiant Cymru yn cynnwys adrodd ar y cerrig milltir hyn am y tro cyntaf. Mae cerrig milltir cenedlaethol yn helpu i fesur cyflymder y newid sydd ei angen i gyflawni’r nodau llesiant. Cafodd yr ail don o gerrig milltir cenedlaethol eu gosod ym mis Tachwedd 2022 a byddwn yn adrodd ar y set gyflawn o gerrig milltir cenedlaethol am y tro cyntaf eleni.

Cafodd y gyfres o allbynnau sy’n cynnwys adroddiad Llesiant Cymru a’r dangosfwrdd Dangosyddion Cenedlaethol eu hasesu gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Rhoddwyd statws Ystadegau Gwladol iddynt y llynedd, sy’n golygu eu bod wedi cael eu hasesu’n annibynnol fel rhai sy’n cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Rydym wedi gwneud rhai gwelliannau eleni ar sail adborth gan yr OSR fel rhan o’u hasesiad o’r adroddiad hwn. Rydym wedi ceisio gwella sut rydym yn cyfleu unrhyw ansicrwydd yn y data drwy roi newidiadau tymor byr yng nghyd-destun tueddiadau hirdymor. Pan fyddwn yn defnyddio data arolwg, rydym hefyd wedi gwneud sylwadau ynghylch a yw’r newidiadau hyn yn “ystadegol arwyddocaol”, sy’n golygu eu bod yn annhebygol o fod wedi digwydd ar hap. Rydym hefyd yn datblygu fframwaith sy’n nodi sut rydym yn penderfynu pa fathau o ffynonellau data i’w defnyddio yn yr adroddiad hwn ac i fesur y dangosyddion cenedlaethol, a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn rhyddhau’r flwyddyn nesaf.

Mae’r dudalen Llesiant Cymru yn cynnwys dolenni i bob adroddiad Llesiant Cymru blaenorol, yn ogystal â data a ddefnyddir yn yr adroddiadau, gwybodaeth am ansawdd, a dangosyddion cenedlaethol. Dewch yn ôl ar 28 Medi i weld ein hasesiad “cyflwr y genedl” ar gyfer 2023.

Gadael sylw