Adroddiad Llesiant Cymru 2024

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol Llesiant Cymru ar 26 Medi 2024. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am lesiant yng Nghymru i’n helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd o ran y saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r adroddiad yn ystyried cynnydd o ran y 50 dangosydd cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill. Mae’r adroddiad yn fecanwaith atebolrwydd allweddol, i fod yn dryloyw ynghylch y cynnydd mae Cymru’n ei wneud tuag at ei nodau llesiant.

Yn yr un modd â 2023, mae adroddiad hawdd ei ddeall wedi cael ei gyhoeddi yn ogystal â’r prif adroddiad i helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar wybodaeth ystadegol am Gymru.

Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar wahân ar ethnigrwydd a llesiant, ochr yn ochr â phrif adroddiad Llesiant Cymru, yn dilyn adroddiad ar blant a llesiant y flwyddyn flaenorol. Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu adroddiadau atodol ochr yn ochr â’r prif adroddiad lle mae angen amlwg gan ddefnyddwyr i wneud hynny. Fodd bynnag, eleni gwnaethom ganolbwyntio ar ffyrdd eraill o wella sut rydym yn cyfathrebu cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Ffordd newydd o gyfathrebu cynnydd

Wrth i ni nesáu at 10 mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym ni wedi ystyried sut y gallwn ni barhau i ddarparu gwybodaeth newydd a ffyrdd gwell o gyfathrebu cynnydd tuag at y nodau llesiant. Gan adeiladu ar adborth gan ddefnyddwyr, eleni rydym ni’n arbrofi gyda ffordd newydd o ddangos cynnydd, gan ganolbwyntio ar yr 17 carreg filltir genedlaethol. Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Rydym ni wedi edrych ar y data ar gyfer pob carreg filltir ers 2015, sef pan ddaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i rym, ac wedi asesu a yw’r duedd wedi bod yn gwella ai peidio ers y dyddiad hwnnw.

Mae sawl rhan i rai o’r 17 o gerrig milltir, felly fe wnaethom ni asesu cyfanswm o 21 cynnydd i gyd. Roedd deg o’r rhain wedi gwella ers 2015, sy’n awgrymu bod Cymru’n mynd i’r cyfeiriad cywir tuag at y garreg filltir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, er y gallai’r duedd fod yn symud i’r cyfeiriad cywir, bydd angen i ni symud yn gyflymach i gyrraedd y targed erbyn 2050. Roedd pum carreg filltir wedi dirywio, nid oedd pump wedi newid fawr ddim, neu o gwbl, ac nid oedd modd asesu cynnydd un garreg filltir gan mai dim ond blwyddyn o ddata oedd ar gael. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y cerrig milltir yn parhau i ddilyn y tuedd tymor hirach a sefydlwyd cyn 2015.

Gallwch chi ddarllen mwy am y dull gweithredu rydym ni wedi’i fabwysiadu yn y bennod gerrig milltir cenedlaethol adroddiad Llesiant Cymru. Gan fod hon yn ffordd newydd o gyflwyno’r wybodaeth hon, rydym ni’n awyddus i glywed eich adborth ynghylch a yw hyn yn eich helpu i ddeall y cynnydd tuag at y nodau llesiant.

Anfonwch eich adborth i ProsiectauBlaenoriaethUchel.Ystadegau@llyw.cymru.

Mae’r dudalen Llesiant Cymru yn cynnwys dolenni i bob adroddiad Llesiant Cymru blaenorol, yn ogystal â data a ddefnyddir yn yr adroddiadau, gwybodaeth am ansawdd, a dangosyddion cenedlaethol.